Ers sawl blwyddyn bellach, mae Y Selar wedi bod yn cydweithio gyda’r Urdd i ddatblygu’r arlwy gerddoriaeth gyfoes sydd i’w fwynhau ar faes Eisteddfod yr Urdd.
Anodd credu mai Eisteddfod yr Urdd Abertawe yn 2011 oedd y tro cyntaf i ni gyflwyno bandiau cyfoes i lwyfan perfformio’r maes. Dau fand yn unig berfformiodd yn ystod yr wythnos – Trwbador a Sen Segur – ond roedd yn ddechrau!
Eleni, ym Mae Caerdydd mae gennym 67 o slotiau ar gyfer bandiau ac artistiaid cyfoes ar bump llwyfan gwahanol ar y maes. Rydym yn cyd-weithio gyda gŵyl fawr y Brifddinas, Tafwyl, i gyflwyno llwyfan newydd – Llwyfan y Lanfa – yng Nghanolfan y Mileniwm gyda’r hwyr rhwng nos Sul a Iau, ac i lwyfannu ‘diwrnod Tafwyl’ ar y dydd Iau. Mae partneriaethau hefyd gyda Brwydr y Bandiau Radio Cymru lle bydd cyfle i chi gael blas ar y cystadleuwyr eleni, ac mae dydd Gwener yn ddiwrnod ‘Gorwelion’ sy’n mynd i fod yn barti hollol unigryw.
Mae gig nos wedi’i gynnal i gloi yr wythnos ar nos Sadwrn y Steddfod ers ymweld â’r Fflint dair blynedd yn ôl, ond eleni, mae ail gig nos ar y nos Wener ym Mae Caerdydd.
Gyda chymaint yn digwydd, dyma dynnu sylw at rai o bigio’n arbennig yr wythnos yn ein tyb ni – peidiwch a’u colli!
Slot ‘showcês’ Brwydr y Bandiau
Mae bob amser yn braf gallu roi cyfle i artistiaid newydd berfformio ar lwyfan awyr agored, ac am 17:00 nos Lun, Mawrth a Mercher mae cyfle i chi weld tri artist ifanc mewn slot showcês arbennig.
Mari Mathias, Sbectol Haul a Kuider ydy cystadleuwyr Brwydr y Bandiau Radio Cymru a Maes B eleni, ac mae cyfle i chi feirniadu dros eich hun ar Lwyfan Perfformio ‘Steddfod yr Urdd.
Slotiau ‘hedleinio’ diwedd dydd
Fel rheol mae slotiau’r Llwyfan Perfformio wedi bod yn gorffen am 17:00 bob dydd, ond eleni mae dwy awr ychwanegol o gerddoriaeth fyw i chi ng Nghaerdydd. Pa le gwell i ymlacio a chymdeithasu ar ddiwedd prynhawn na’r Bae, ac mae ganddom ni deimlad bydd y slotiau ‘hedleinio’ am 18:00 bob prynhawn yn boblogaidd iawn gydag Eisteddfodwyr a thrigolion y Brifddinas.
O awyrgylch parti band pres Wonderbrass i ‘hits’ Mei Gwynedd, y band lleol poblogaidd Wigwam i anthemau Candelas, mae slotiau diwedd y prynhawn yn rai sy’n rhaid eu dal.
Diwrnod Tafwyl
Gan fod y Steddfod yn ymweld â’r Brifddinas, pwy well i gydweithio â nhw ‘na chriw gŵyl Tafwyl sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf. Dydd Iau ydy Diwrnod Tafwyl, ac mae’r criw wedi dethol amrywiaeth o artistiaid gorau’r Brifddinas i ddathlu ymweliad y Steddfod â Chaerdydd.
Parti Gorwelion
Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau wedi rhoi llwyfan a hwb i lwyth o artistiaid dros y bum mlynedd ddiwethaf, ac mae’n bleser gennym gyd-weithio â’r cynllun i lwyfannu parti unigryw ar ddydd Gwener yr Eisteddfod.
Bydd diwrnod Gorwelion yn cynnwys cerddoriaeth pres Bollywood Rajasthan, dawnsio anhygoel y Jukebox Collective Academy, perfformiad arbennig gan y gantores bop wych Hana2k a setiau electro pop hefyd gan Eädyth a Roughion.
Llwyfan y Lanfa
Datblygiad newydd, a llwyfan newydd eleni. Y Selar a Tafwyl sydd wedi curadu lein-yp Llwyfan y Lanfa, sydd yn foyer Canolfan y Mileniwm a fydd yn lwyfannu dau artist gyda’r hwyr rhwng nos Sul a nos Iau. Kizzy Crawford, Al Lewis, Glain Rhys, Omaloma a Rhys Gwynfor ydy dim ond rhai o’r enwau sy’n perfformio. Mae’r lein-yp llawn ar wefan y Steddfod rŵan.
Gigs nos diwedd yr wythnos
Ers tair blynedd bellach rydym yn gyfarwydd â pharti mawr nos Sadwrn yr Eisteddfod i ddathlu diwedd wythnos wych. Eleni am y tro cyntaf mae dwbl y parti gyda gig ar y nos Wener yn ogystal â Sadwrn – ac am lein-yps!
Chroma, Fleur de Lys a band ifanc mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, Gwilym fydd yn rocio’r Bae ar y nos Wener. Yna, ar y nos Sadwrn y grŵp lleol hynod boblogaidd, Wigwam, artist newydd gorau Gwobrau’r Selar eleni, Lewys, a band parti gorau Cymru, Band Pres Llareggub i gloi yr wythnos mewn steil.
Dim ond rhai pigion ydy rhain cofiwch – mae cerddoriaeth gyfoes wych ar eich cyfer trwy’r wythnos ar y Llwyfan Perfformio fydd dan drwyn y Senedd, llwyfan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Pentre Mistar Urdd a llwyfan Dysgu Cymraeg. Gallwch weld amserlen lawn y Llwyfan Perfformio ar wefan y Steddfod. Welwn ni chi yna!