Roedd y grŵp ifanc o Gaerdydd, SYBS, yn perfformio yng ngŵyl gelf ieithoedd lleiafrifol SUNS yn yr Eidal dros y penwythnos.
Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol yn Udine yn Yr Eidal.
Mae Gruff Rhys ac Adwaith ymysg yr artistiaid Cymraeg sydd wedi perfformio yn yr ŵyl yn y gorffennol.
Bob blwydyn yn ystod yr ŵyl mae panel beirniaid yn dewis dyfarnu gwobr arbennig, ac fe orffennodd SYBS yn y trydydd safle eleni.