Mae enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2018 wedi cyhoeddi dau ddarn o newyddion
difyr yn ddiweddar wrth iddynt baratoi i ryddhau eu cynnyrch cyntaf.
Y darn cyntaf o newyddion ydy fod ‘Y Sybs’, bellach wedi addasu rhywfaint ar eu henw i dim
ond ‘SYBS’.
A’r ail ddarn o newyddion cyffrous ydy eu bod nhw wedi ymuno â stabal cynyddol drawiadol
label Recordiau Libertino wrth iddynt baratoi i ryddhau eu sengl gyntaf.
SYBS ydy Osian Llŷr, Herbie Powell, Dafydd Adams a Zach Headon a nhw ddaeth i’r brig yn rownd derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Radio Cymru a Maes B yn Eisteddfod Bae Caerdydd llynedd.
Mae cyfweliad gyda’r grŵp ifanc o Gaerdydd yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan nawr, ac
maen nhw’n datgelu yn y sgwrs gyda Lois Gwenllian eu bod newydd recordio sengl ddwbl
‘Paid Gofyn Pam / Cadw Draw’ gyda’r cynhyrchydd Kris Jenkins.
Dywed y grŵp fod ganddyn nhw nifer o ganeuon newydd hefyd, gydag awgrym cryf y gallwn ni ddisgwyl newid bach i sŵn y pedwarawd gan symud i gyfeiriad mwy dawns a disgo.
Roedd yn benwythnos mawr i SYBS wrth iddyn nhw gefnogi Mr yn ei gig yng Nghlwb Ifor Bach nos Wener. Gallwch weld galeri lluniau arbennig Y Selar o’r gig ar y wefan nawr.
Bydd cyfle hefyd i’w gweld unwaith eto yng Nghlwb Ifor Bach ar 28 Mawrth wrth iddyn nhw hedleinio gig rhagbrofol Brwydr y Bandiau. Spectol Haul, Mari Mathias a Kruider fydd y tri band sy’n cystadlu ar y noson.
Prif Lun: SYBS yn cefnogi Mr yng Nghlwb Ifor Bach – 8 Mawrth 2019 (Ffotograffydd: Betsan @ Celf Calon)