Tair gŵyl ar rhestr ‘Digwyddiad Byw Gorau’

Tair o brif wyliau Cymreig y wlad sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Digwyddiad Byw Gorau’ Gwobrau’r Selar.

Mae gigs Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi hen ennill eu plwyf fel un o uchafbwyntiau’r calendr gigs i fandiau ifanc, ac yn gyn enillydd o’r wobr hon ar sawl achlysur, nid yw’n syndod gweld y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd yn 2018, ar y rhestr fer unwaith eto eleni.

Gŵyl arall sydd wedi sefydlu ei hun yng Nghaerdydd ydy Tafwyl. Er bod llawer mwy i’r digwyddiad a leolir yng Nghastell Caerdydd, mae cerddoriaeth wedi dod yn ganolog i lwyddiant yr ŵyl a’r leinyp fel arfer yn ddiguro.

Y drydedd ŵyl ar y rhestr eleni ydy Sesiwn Fawr Dolgellau. Yn y 1990au a 2000au roedd hon yn un o wyliau mwyaf Cymru, os nad y fwyaf. Yn anffodus, cafwyd llanw a thrai a arweiniodd ar dorri nôl tipyn ar y digwyddiad. Ond, dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweld tipyn o adfywiad diolch i griw ffresh o drefnwyr, ac mae’n dda gweld y Sesiwn Fawr yn cyrraedd y rhestr.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei ddatgelu ar benwythnos Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth, ar 15-16 Chwefror.