Taith ac albwm Nadolig Calan

Mae’r grŵp gwerin Calan wedi rhyddhau albwm Nadoligaidd i gyd-fynd a thaith i leoliadau Cymreig yn ystod mis Rhagfyr eleni.

‘Nadolig yng Nghymru / Christmas in Wales’ ydy enw’r albwm newydd ac roedd allan yn swyddogol ar label Recordiau Sienco ddydd Gwener diwethaf, 29 Tachwedd.

Yn ôl y band mae’r albwm newydd yn dod a’r traddodiadol a’r cyfoes at ei gilydd i greu dathliad eclectig o Nadolig yn y Gymru fodern. Disgwyliwch gerddoriaeth Nadoligaidd unigryw Gymreig, yn garolau traddodiadol y Plygain, wedi’u canu yn eu ffurf buraf; cwpl o ganeuon gaeafol gan gynnwys cân y Fari Lwyd; clasuron Nadoligaidd glam-roc gyda sgrechfeydd gwych y bagpipes; a fersiwn hiraethus o ‘A Child’s Christmas in Wales’ gan Dylan Thomas.

Bydd arlwy’r sioe Nadolig yn ddigon cyfarwydd i ffans Calan, gydag addewid am ‘gracyr o sioe’ sy’n dod â thymor y Nadolig yn fyw gyda cherddoriaeth, dawns, bagpipes traddodiadol Gymreig, telyn, acordion, ffidlau a chlocsio.

Mae awgrym hefyd i gadw golwg am ymddangosiad gan y Fari Lwyd.

Bydd nifer cyfyngedig o gopiau o CDs yr albwm, yn ogystal â bauble Nadoligaidd Calan, ar werth yn eu gigs yn unig.

Dyma restr lawn y gigs ym mis Rhagfyr:

5 Rhagfyr – Theatr Mwldan, Aberteifi

6 Rhagfyr – Theatr Llanfair-ym-Muallt

7 Rhagfyr – Theatr Llwyn, Llanfyllin

12 Rhagfyr – Canolfan y Celfydydau, Aberystwyth

21 Rhagfyr – Pontio, Bangor