Ym mis Chwefror, bydd Lleuwen yn perfformio cyfres o gigs acwstig mewn capeli yng Nghymru.
Yn ogystal â Lleuwen, bydd gwestai gwadd gwahanol yn perfformio neu drafod themâu ysbrydol sydd ynghlwm ag albwm diweddaf y gantores, sef Gwn Glân Beibl Budr.
Rhyddhawyd Gwn Glân Beibl Budr ar label Recordiau Sain ddiwedd mis Tachwedd diwethaf ac mae wedi derbyn canmoliaeth o sawl cyfeiriad.
O’r gân syml ‘Bendigeidfran’ a ysgrifennodd i’w phlant y bore wedi pleidlais Brexit, i ganeuon yn ymdrin â dibyniaeth, ysbrydolrwydd, twf trefol a chrebachu cefn gwlad : traffig lôn, traffig ffôn a thraffig meddwl.
Gyda’i gwaith diweddaraf, mae Lleuwen yn troi at hen emynau hefyd – alawon a geiriau sydd 300 oed neu hŷn, i’w helpu i fynegi a gwneud synnwyr o bryderon cymdeithas heddiw.
Pa ffordd well o gyflwyno Gwn Glân Beibl Budr na thaith o gwmpas y capeli hynny a fu’n gartref i’r hen emynau, ac yn gymaint o ysbrydoliaeth.
14/02/18 – Capel Goffa Williams Pantycelyn, Llanymddyfri gyda Eddie Ladd
16/02/18 – Capel Salem Canton Caerdydd gyda Carol Hardy
17/02/18 – Capel y Morfa Aberystwyth gyda Hywel Griffiths
18/02/18 – Capel y Groes Penygroes gyda Karen Owen
Mae Lleuwen hefyd wedi cyhoeddi fideo newydd sbon ar gyfer y trac ‘Myn Mair’ ddydd Gwener diwethaf ac mae modd gweld hwn ar sianel YouTube Lleuwen nawr (neu isod).