Taith Cwmwl Tystion

Bydd grŵp newydd sy’n cynnwys nifer o gerddorion amlwg iawn yn cynnal taith arbennig ym mis Mehefin eleni.

Cwmwl Tystion ydy enw’r grŵp sy’n cynnwys Tomos Williams (trwmped), Rhodri Davies (telyn, effeithiau trydanol), Francesca Simmons (ffidil, llif), Huw Warren (piano), Huw V Williams (bas), Mark O’Connor (drymiau), Simon Proffitt (celf weledol fyw).

Mae’r aelodau i gyd yn enwau adnabyddus, ac wedi bod yn ran o nifer o fandiau a phrosiectau cerddorol blaenorol yn enwedig yn y genre jazz.

Yn ôl yr wybodaeth sydd wedi’i gyhoeddi, a gan ddyfynnu’r awdur Jon Gower, bydd Cwmwl Tystion yn perfformio “cyfansoddiadau newydd sy’n plethu adleisiau gwleidyddol Tryweryn ag arbrofion hyderus Rhodri Davies, neu chwerwder styfnig y Lyfrau Gleisio â cherddoriaeth telynegol Huw Warren a Tomos Williams, yn gwbl hanfodol, mewn oes lle mae democratiaeth yn crebachu a gwleidyddiaeth yn allgau.”

Bydd y daith yn dechrau ar 12 Mehefin ac yn ymweld â theatrau yn bennaf, gan gynnwys lleoliadau yn Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Caerdydd, Llundain, Abertawe a Bangor.

Dyddiadau taith Cwmwl Tystion:

12 Mehefin – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

13 Mehefin – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

25 Mehefin – Chapter, Caerdydd

26 Mehefin – Cafe Oto, Llundain

28 Mehefin – Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe

29 Mehefin – Pontio, Bangor