Taith hydref 9Bach

Bydd y grŵp gwerin 9Bach yn ymweld ag wyth o leoliadau yn ystod mis Hydref fel rhan o’u taith hydref eleni.

Bydd y daith yn dechrau yn Kings Place, Llundain ar 14 Hydref gyda gig yn The Junction, Caergrawnt y noson ganlynol.

Tri lleoliad Cymreig fydd yn dilyn hynny – Theatr Mwldan, Aberteifi ar 19 Hydref; Clwb Ifor Bach, Caerdydd ar 22 Hydref; a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 23 Hydref.

The Met yn Bury fydd y lleoliad ar 24 Hydref, gyda gig yn y Philharmonic Music Room yn Lerpwl ar 25 Hydref, a’r daith yn cloi yn Pontio, Bangor ar 26 Hydref.

Mae’r grŵp yn dathlu 10 mlynedd ers rhyddhau eu hallbwn cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, yn 2009 ac wedi ail-ryddhau’r record yn ddiweddar ar label Real World Records.

Byddan nhw hefyd yn teithio i Asia ym mis Tachwedd i berfformio yng ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol ‘LUCfest’ yn Tainan, Taiwan rhwng 8 – 10 Tachwedd fel rhan o ‘showcase’ a drefnir gan Focus Wales.