Taith Tachwedd Gadael Tir

Mae’r prosiect cerddoriaeth gwerin, ‘Gadael Tir’, wedi cyhoeddi manylion taith fydd yn digwydd yn ystod mis Tachwedd.

Bydd y daith yn ymweld â’r lleoliadau canlynol fel rhan o’r daith:

16 Tachwedd – Theatr Soar, Merthyr Tudful

17 Tachwedd – Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan

21 Tachwedd – Gwersyll yr Urdd Glan Llyn

23 Tachwedd – Tŷ Siamas, Dolgellau

25 Tachwedd – Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe

29 Tachwedd – Tafarn y Fic, Llithfaen

30 Tachwedd – Neuadd y Pentref, Llanystumdwy

Y cerddorion gwerin Owen Shiers a Gwilym Morus-Baird sy’n gyfrifol am gywaith Gadael Tir, ac mae’n ddehongliad o Hanes hawliau tir a phrotest yng Nghymru trwy ganu gwerin, cerdd a stori.