Mae’r cerddor gwerin poblogaidd, Gwilym Bowen Rhys, newydd ddychwelyd o daith arbennig a llwyddiannus yng Ngholumbia.
Daeth y cyfle i ymweld â De America diolch i gysylltiad gyda gŵr o Golumbia sy’n rhedeg Tafarn y Fraich Goch yng Nghorris, a hefyd mab dyn o Fachynlleth sy’n rhedeg fferm goffi allan yn y wlad.
“Taith Wych” meddai Gwilym wrth iddo drafod y daith gyda’r Selar.
“Y grŵp oedd fi, Iestyn Tyne ac Osian Morris – waliwr by day, ond yn sgwennu a chanu ei ganeuon ei hun hefyd.
“Dydi o [Osian] heb recordio eto ond ma’n gobeithio neud yn fuan, caneuon hamddenol gwerinol / blues efo geiria hyfryd a gwahanol.”
Croeso arbennig
Bu i’r triawd berfformio mewn rhyw hanner dwsin o gigs yn ystod eu hymweliad.
“Cwpwl o gigs yn Bucaramanga, dinas yn y canolbarth, a chyd chwara efo band ifanc lleol oedd yn chwara ‘Carranga’, miwsig traddodiadol yr ardal yna, sef Santander.
“Mae’n wlad mor fawr, ma pob ardal efo’i traddodiadau a’i ddiwylliant ei hun, yn dibynnu ar hanes y bobol sydd yna. Er enghraifft mae ’na ardaloedd lle mae’r elfen frodorol yn llawer cryfach, ardaloedd eraill efo dylanwad Affricanaidd o’r caethweision, ac ardaloedd lle aeth mwy o bobol o Sbaen a gweddill Ewrop, felly dylanwad mwy ‘colonial‘.”
Yn ôl y cerddor fe gawsom nhw groeso arbennig gan y cynulleidfaoedd lleol yn ystod eu taith.
“Roedd pawb oeddan ni wedi cwrdd yn hyfryd ac yn llawn brwdfrydedd ac isio dysgu am ein cefndir ni. Er bod y wlad efo lot o broblemau, ac mae’r wleidyddiaeth yn eitha corrupt, oedd y bobl ar lawr gwlad yn rai o’r hyfryta’ dwi di cwrdd, ac odda ni’n teimlo’n saff drwy’r adeg.
“Aethon ni i weld cyfarfod brodorion o gwmpas tân mewn tŷ mawr crwn traddodiadol a natha nhw’n cael ni i ganu iddyn nhw hefyd.”
Gwnaeth Gwil a’i gyfeillion gymaint o argraff nes cael eu cynnwys ar raglen newyddion ar deledu – gwyliwch isod, rhyw 1:26 mewn i’r rhaglen. Cawsant eu ffilmio’n chwarae mewn ysgol gerdd
Yn dilyn llwyddiant y daith a’r cysylltiadau a wnaethpwyd, dywed Gwilym ei fod yn gobeithio dod â grŵp o Golumbia draw i Gymru i wneud taith blwyddyn nesaf.