Mae’r artist jazz gyfoes, Thallo, wedi cyd-wethio â’r cynhyrchydd electronig Ifan Dafydd i ryddhau ail-gymysgiad o’r sengl ‘I Dy Boced’.
Rhyddhawyd ‘I Dy Boced’ yn wreiddiol gan Thallo ym mis Ebrill eleni, ynghyd â fideo i’r gân a ddangoswyd yn gyntaf ar wefan Y Selar ar 30 Ebrill.
Thallo ydy prosiect cerddorol Elin Edwards. Mae Elin yn dod yn wreiddiol o Benygroes, ond yn byw yn Llundain ar hyn o bryd ac yn ysgrifennu cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Wrth drafod cerddoriaeth Thallo, mae Elin yn ei ddisgrifio fel ‘sain mynegiannol’ gyda threfniannau cymhleth.
Roedd fersiwn wreiddiol ‘I Dy Boced’ yn ddilyniant i EP Thallo o’r enw ‘Nhw’ a ryddhawyd ym mis Mawrth 2018.
Mae’r EP 4 trac hwnnw ar gael ar safle Bandcamp Thallo nawr.
Creu ‘ail-ddychmygiad’
Mae Ifan Dafydd, sy’n gyn-aelod o’r grŵp o ardal Caernarfon, Derwyddon Dr Gonzo, yn bellach wedi sefydlu ei hyn fel cynhyrchydd uchel ei barch ar lefel rhyngwladol, ac yn gyfarwydd am ei allu i greu fersiynau unigryw o ganeuon rhai o artistiaid Cymru a thu hwnt.
Mae ‘I Dy Boced (Ifan Dafydd Remix)’ allan yn swyddogol ar label Recordiau Côsh ers dydd Gwener diwethaf, 30 Awst.
Tuedd Ifan wrth ail-gymysgu traciau ydy i gymryd ambell alaw o’r gân wreiddiol, neu lafnu gair yn ei hanner yma ac acw, i greu ‘ail-ddychmygiad’ o’r hyn mae’n ei glywed a chreu sain electroneg unigryw sy’n nodwedd o’i waith.
Cafodd fersiwn newydd y trac ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Huw Stephens wythnos diwethaf ac mae bellach ar gael i’w ffrydio a lawr-lwytho o’r mannau digidol arferol.
Dyma fideo bach rhyfedd iawn sy’n defnyddio’r trac ar YouTube!