The Trials of Cato i deithio yn America

Mae’r grŵp gwerin o Ogledd Ddwyrain Cymru, The Trials of Cato, wedi cyhoeddi manylion eu taith cyntaf yn America.

Bydd y triawd yn perfformio cyfres o 6 gig yn yr U.D. ar ddechrau mis Hydref.

Byddan nhw’n ymweld â Gorham (Neu Hampshire), Sharon (Vermont), Calais (Maine), Efrog Newydd, Timonium (Maryland) ac Upper Jay (Efrog Newydd) rhwng 4 a 12 Hydref.

Mae manylion llawn y daith ar eu gwefan.

Mae’r grŵp ar hyn o bryd ar ganol cyfres enfawr o ddyddiadau mewn lleoliadau amrywiol ledled Prydain ac Ewrop.