Bydd y band gwerin poblogaidd The Trials of Cato yn perfformio gig i godi arian tuag at Ganolfan Gymraeg Saith Seren nos Wener yma, 28 Mehefin.
Mae’r band yn cynnwys dau aelod o Wrecsam, sef Robin Jones a Tomos Williams. Wil Addison ydy’r trydydd aelod, sy’n dod o Swydd Efrog.
Mae’r grŵp dwy-ieithog yn chwarae cymysgedd o gerddoriaeth gwerin bywiog gyda dylanwadau amrywiol, gan gynnwys o Gymru, Lloegr a hyd yn oed o Lebanon, lle bu’r tri aelod yn byw am gyfnod. Mae cynulleidfaoedd ar draws y wlad wedi eu syfrdannu gan eu gallu cerddorol, eu caneuon egniol clyfar a’u cyflwyniadau hwyliog.
Yn gynharach eleni, enillodd y band wobr y ‘Y Band Gorau Sy’n Dechrau Dod i’r Amlwg’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru. Mae eu halbwm ‘Hide and Hair’ wedi ennill canmoliaeth eang a llawer o sylw ar Radio Cymru a Radio Prydeinig. Cyfeiriodd y DJ Mark Radcliffe o Radio 2 atyn nhw fel “Un o’r darganfyddiadau mwyaf yn y byd canu gwerin yn y blynyddoedd diwethaf”.
Mae’r grŵp wedi dod yn bell ers iddyn nhw chwarae un o’u gigs cyntaf yn yr ardal yn Saith Seren nôl ym Mehefin 2017, ac yna eto yn 2018. Yn ddiweddar, chwaraeon nhw gig yn Tŷ Pawb, Wrecsam, a chymaint oedd y galw am docynnau, roedd rhaid trefnu ail noson.
“Rydym yn hynod o ddiolchgar a balch bod hogia The Trials of Cato wedi dod nôl i chwarae yma, a chynnig helpu ni yn Saith Seren i godi arian ar gyfer cynnal y ganolfan, a sicrhau ei dyfodol” meddai Chris Evans, Cadeirydd Saith Seren.
“Rydym yn obeithiol o roi cynllun at ei gilydd fydd yn galluogi ni i brynu’r adeilad yn y dyfodol agos, a bydd yr elw o’r noson hon yn ddefnyddiol iawn tuag at y nod hwnnw” ychwanegodd Chris.
“Rydyn ni wrth ein boddau yn dod nôl i Wrecsam tref enedigol minnau a Tomos, ac yn enwedig i ddod i Saith Seren, a oedd yn gefnogol iawn i ni pan yr oedden ni’n dechrau sefydlu ein hunain” meddai Robin Jones o’r band.
“Mae’r ganolfan yn bwysig iawn fel lleoliad ar gyfer cerddoriaeth byw, a gyda nifer o lefydd tebyg yn cau yn ddiweddar, rydym yn falch iawn o allu helpu sicrhau dyfodol Saith Seren”.