Mae’r grŵp electronig, Roughion, wedi rhoi nifer o draciau ar Soundcloud i’w lawr lwytho am ddim dros dro.
Roughion ydy prosiect cerddorol Gwion James a Steffan Woodruff o Geredigion ac roeddent yn ran o brosiect Gorwelion BBC Cymru yn 2017.
Mae’r traciau ar gael i’w lawr lwytho am ddim ar eu cyfrif Soundcloud nes 1 Ionawr ac yn cynnwys y traciau ‘Amrwd’, ‘Helynt Trap Vid’ a ‘rho sebon arno fi roughion’, sef eu fersiwn cyfyr o ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd.
Bydd Roughion yn chwarae mewn parti nos Calan yn The Coconut Tree yng Nghaerdydd nos Fawrth, 31 Rhagfyr.