Tri albwm gwahanol iawn sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar eleni.
Mae’r dair record hir ddaeth i frig pleidlais gyhoeddus y Gwobrau’n sicr yn adlewyrchu amrywiaeth blas cerddorol y pleidleiswyr.
Record hir gyntaf y grŵp poblogaidd o’r gogledd, Gwilym, ydy’r albwm cyntaf ar y rhestr. Rhyddhawyd y casgliad ar 20 Gorffennaf, ac mae’n cynnwys traciau fel ‘Cwîn’, ‘Fyny ac yn Ôl’ a ‘Catalunya’ sydd wedi dod yn ffefrynnau mawr ymysg cynulleidfaoedd Cymru.
Does dim syndod am yr ail record hir ar y casgliad. Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc oedd enillydd gwobr ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Genedlaethol nôl ym mis Awst, a hon oedd yr unig record Gymraeg i gyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018. Er eu bod nhw’n un o grwpiau amlycaf Cymru ers sawl blwyddyn, dyma albwm cyntaf Mellt.
Efallai mai albwm Phil Gas a’r Band, O Nunlla, ydy’r enw annisgwyl ar y rhestr ond mae’n adlewyrchu poblogrwydd y grŵp o Ddyffryn Nantlle. Mae caneuon hwyliog fel ‘Seidar ar y Sul’ ‘Ti ar fy meddwl i’ a ‘Mali a fi’ yn draciau poblogaidd sy’n adlewychu arddul hwyliog a bywiog y grŵp.
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yng Ngwobrau’r Selar ar benwythnos 15-16 Chwefror. Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad nawr, ond mae disgwyl iddynt werthu allan yn fuan.