Bydd y grŵp o Gaerdydd, Threatmantics, yn rhyddhau eu trydydd albwm llawn ddiwedd mis Chwefror.
Enw’r record hir newydd ydy ‘Shadow on your Heart’ a bydd yn cael ei ryddhau ar 22 Chwefror gyda nifer cyfyngedig o gopïau feinyl wedi eu hargraffu â llaw a’u rhifo’n unigol. Mmmm, feinyl….
Bydd gig lansio swyddogol yr albwm yr albwm newydd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar y dyddiad lansio gyda gwesteion arbennig yn cefnogi (enwau i’w cadarnhau).
Threatmantics ydy Heddwyn Davies (Fiola a Llais); Huw Alun Davies (Drymiau, Allweddellau a Llais); Andrew Lewis (Gitâr a llais) a Gareth Middleton (bas).
Ffurfiodd y grŵp yn wreiddiol tua 2005 gan greu tipyn o argraff ar y pryd gyda chyfres o senglau poblogaidd. Y gyntaf o’r rhain oedd ‘Don’t Care’ a ryddhawyd fel rhan o gyfres senglau Ciwdod yn 2007.
Eu halbyms blaenorol ydy Upbeat Love a ryddhawyd yn 2008, a Kid McCoy a ryddhawyd yn 2012. Fe wnaethon nhw hefyd ryddhau’r sengl ‘Esgryn’ yn ystod 2012, ond yr albwm newydd fydd eu cynnyrch cyntaf ers y flwyddyn honno.
Yn ôl cyfrif Twitter y band, bydd modd rhag archebu’r albwm newydd yn fuan.
Dyma’r ardderchog ‘Don’t Care’ o ddyddiau cyfres Bandit: