Mae Yr Ods wedi rhyddhau ail sengl o’u halbwm newydd, Iaith y Nefoedd, sydd allan yn ar 22 Tachwedd.
‘Tu Hwnt i’r Muriau’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sy’n ddilyniant i’r sengl gyntaf o’r albwm, ‘Ceridwen’, a ryddhawyd ddechrau mis Hydref.
Mae ‘Iaith y Nefoedd’ yn gywaith cysyniadol, aml gyfrwng gyda’r awdur amlwg Llwyd Owen. Law yn llaw â’r albwm gan y grŵp, mae Owen wedi ysgrifennu nofel fer.
Mae’r nofel yn ail-ddehongliad o’r ymadrodd cyfarwydd sy’n deitl i’r cywaith, ac yn ei osod mewn Cymru ddystopaidd sy’n pydru â chasineb. Mewn dyfodol diobaith, caiff rhyddid a syniadau eu rheoli hyd yr eithaf.
‘Iaith y Nefoedd’ ydy trydydd albwm Yr Ods, yn dilyn ‘Troi a Throsi’ (2011) a ‘Llithro’ (2013).
Mae caneuon y casgliad wedi’u hysbrydoli gan y nofel fer gan Llwyd Owen, ac er bod y sain yn fwy tywyll na gwaith blaenorol y band, mae’r melodïau pop bachog cyfarwydd yn dal i fod yn amlwg.
Bydd cywaith ‘Iaith y Nefoedd’ yn cael ei ryddhau ar label Lwcus T a gwasg Y Lolfa ar 22 Tachwedd. Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth o gronfa Fusion Fund, Help Musicians UK.
Mae Yr Ods wedi cyhoeddi manylion gigs hyrwyddo ar gyfer yr albwm newydd ym mis Rhagfyr. Byddant yn perfformio yng Ngorsaf Reilffordd Eryri yng Nghaernarfon ar 7 Rhagfyr, ac yna yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar y dydd Gwener canlynol, 13 Rhagfyr.
Mae modd rhag archebu’r albwm newydd ar wefan y prosiect nawr.
Mae’r grŵp wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y sengl newydd ar eu sianel YouTube wythnos diwethaf hefyd – dau o’r aelodau, Griff Lynch a Gruff Pritchard sydd wedi cyfarwyddo’r fideo.