Mae’r grŵp poblogaidd o’r gogledd, Phil Gas a’r Band, wedi cyhoeddi eu bod ar fin croesawu aelod newydd i’r band, sef y gitarydd profiadol Tudur Huws Jones.
Mae Tudur wedi bod yn un o gerddorion amlycaf Cymru ers sawl degawd bellach, yn cydweithio gyda Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Siân James, a hefyd yn aelod o’r grwpiau Cilmeri, 4 yn y Bar, Branwen a Gwerinos. Bu iddo hefyd ryddhau’r albwm unigol ‘Dal i Drio’ yn 2004.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Phil Gas a’r Band wedi dod yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd yn y Gogledd, yn enwedig yng Ngwynedd a Môn, gan berfformio’n rheolaidd. Bu iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘O Nunlla’ yn 2018 – casgliad sy’n cynnwys y caneuon poblogaidd ‘Seidr ar y Sul’ ac ‘Yncl John, John Watkin Jones’.
Er y newyddion da ynglŷn â’r aelod newydd i’r band, mae hynny’n dod ar draul y ffaith bod un o’r aelodau craidd yn gadael. Ar ôl bod yn aelod o’r band am ddwy flynedd a hanner, bydd y gitarydd Dylan Wyn Evans yn rhoi’r gorau iddi ym mis Awst er mwyn canolbwyntio ar ei waith coleg.
“Fel band rydym yn ofnadwy o brysur felly roedd yn teimlo nad oedd yn gallu rhoi’r oriau i mewn” eglurodd Phil.
“Felly roedd rhaid ffeindio rhywun arall, a phwy well na Tudur Huws Jones. Fel ddudodd Geraint Lovgreen wrthyf, ‘waw, ma hyna fel seinio Messi’.”
Yn ôl Phil Gas bydd cael Tudur fel aelod yn cynnig cyfleoedd newydd i’r band gan ei fod yn gallu chwarae nifer o offerynnau gwahanol fel y banjo, mandolin, gitâr a chwiban.
“Ac wrth gwrs ei allu i gyfansoddi caneuon. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yma” ychwanegol Phil.
Mae llwyth o gigs wedi’u trefnu gan Phil Gas a’r Band dros y misoedd nesaf, gyda’r cyntaf ddydd Sadwrn yma, 18 Mai yn ‘Gig Vale’ yng Nghlwb Pêl-droed Nantlle Vale, Penygroes. Bydd Candelas, Gai Toms a’r Band ac I Fight Lions hefyd yn perfformio yno.
Bydd cyfle i weld Phil Gas a’r Band yn perfformio yn ‘Gig Vale‘ ddydd Sadwrn yng Nghlwb Pêl-droed Nantlle Vale ym Mhenygroes.