Bydd y grŵp newydd cyffrous, Kim Hon, yn rhyddhau eu sengl gyntaf ddydd Gwener nesaf, 31 Mai.
‘Twti Ffrwti’ ydy enw’r sengl, a label Recordiau Libertino sy’n rhyddhau.
Kim Hon ydy prosiect newydd canwr enigmatig Y Reu, Iwan Fôn, ynghyd ag Iwan arall, sef Iwan Llŷr, sy’n chwarae’r gitar ac allweddellau.
Roedden nhw’n perfformio yn ‘Sadwrn Barlys’, Aberteifi yn ddiweddar fel rhan o gig wedi’i guradu gan Recordiau Libertino, ac maen nhw hefyd yn perfformio yng ngŵyl Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ddydd Sadwrn yma.
Swagger a Superted
Disgrifir Kim Hon fel ‘band sy’n llwyddo i gyfuno swagger celf/electro/pync LCD Soundsystem gydag agwedd pop wych Super Furry Animals. Band sydd â’r un creadigrwydd budr â The Fall a geiriau sy’n berffaith i’w paentio fel sloganau dros Gymru a thu hwnt.’
Yn ôl y label, mae ‘Twti Ffrwti’ yn anthem llawn curiadau cynhyrfus a slacyr gyda dylanwad bandiau electroneg Cymraeg cythryblus fel Tŷ Gwydr a Traddodiad Ofnus yn amlwg.
Mae’r gân yn sôn am bob dim, o fynyddiedd i ysgytlaeth, i bartïo, i’r lliw porffor, i ddiflastod, i yfed yn yr haul, i ysmygu, i Superted ac i hyd yn oed dyrchafiad Aston Villa.
Recordiwyd y gân gan Robin Llwyd, cymysgwyd y gân gan Steffan Pringle( Estrons, KEYS, Adwath) a mastrwyd y gân gan Charlie Francis (R.E.M, Future of the Left, Sweet Baboo).
Dyma ragflas o’r sengl newydd i chi fwynhau: