‘Tywod’ – sengl newydd Casi & The Blind Harpist

Mae sengl ddiweddaraf Casi & The Blind Harpist allan ers dydd Gwener diwethaf, 11 Hydref.

‘Tywod’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan brosiect newydd y gantores dalentog sy’n gyfarwydd i ni hefyd fel Casi Wyn.

Rhyddhawyd EP cyntaf ei phrosiect diweddaraf dan y teitl ‘1’ ym mis Ebrill, ac ers hynny mae wedi rhyddhau rhagor o draciau, gan gynnwys ei fersiwn o ‘Myfanwy’ ddechrau Awst.

Netflix

Mae’n debyg i Casi ysgrifennu’r geiriau ar gyfer y sengl wedi diwedd perthynas.

Yn ystod y cyfnod yma mae hi’n cofio gwylio cyfres Netflix ‘Stranger Things’, ac fe glywn beth dylanwad o synau ac offeryniaeth synthetig-electronig y trac sain hwnnw yng ngweadau ac alawon y darn.

Mae Casi’n cael ei hadnabod fel un o gantorion mwyaf eithriadol Cymru – mae ei threfniannau cyfoes o’i chyfansoddiadau gwreiddiol yn taenu golau newydd ar draddodiadau hynafol – gan gyflwyno elfennau corawl a cherddorfaol a’u plethu’n gynnil gyda emosiwn ei llais.

Rhyddhawyd y sengl ddeuddydd cyn perfformiad Casi yn Seremoni Wobrywo Bafta Cymru – roedd yn perfformio yn yr achlysur a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd nos Sul diwethaf (13 Hydref).

Bydd cyfle hefyd i weld Casi’n fyw yng Ngwŷl Sŵn y penwythnos yma – bydd yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach am 3:00 brynhawn Sul 20 Hydref.