Mae albwm newydd y Welsh Whisperer allan yn swyddogol ers dydd Llun diwethaf, 15 Gorffennaf.
‘Cadw’r Slac yn Dynn’ ydy enw record hir ddiweddaraf y diddanwr o Gwmfelin Mynach, ac fe gadwodd y newyddion ynglŷn â’r casgliad o dan ei gap pêl-fas nes y penwythnos.
Roedd y CD ar werth am y tro cyntaf yn dilyn ei set yng Ngŵyl Canol Dre, Caerfyrddin ddydd Sadwrn ac mae wedi’i ddosbarthu i siopau ledled Cymru’n barod i’w gwerthu’r wythnos hon.
Anodd dadlau gyda’r faith mai y canwr gwlad tafod ym moch ydy un o artistiaid prysura’ a mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd gyda gigs mewn lleoliadau amrywiol bron yn ddi-ffael bob penwythnos.
Mae hefyd yn prysur sefydlu ei hun fel un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol y wlad hefyd – ‘Cadw’r Slac yn Dynn’ ydy ei drydydd albwm mewn ychydig dros dair blynedd yn dilyn rhyddhau ‘Y Dyn o Gwmfelin Mynach’ ar ddiwedd 2016 a ‘Dyn y Diesel Coch’ ddechrau 2018.
Mae’r albwm newydd yn cael ei ryddhau ar label annibynnol y Welsh Whisperer, sef Recordiau Hambon, ac yn ôl yr wybodaeth sydd wedi cyrraedd gallwn ddisgwyl sŵn gwahanol i’w recordiau poblogaidd blaenorol. Mae hynny diolch i gyfraniad y cerddor gwerin amryddawn Patrick Rimes o’r band Calan sy’n ymuno ar y ffidil, ynghyd â John Williams o fand Bryn Fôn ar y piano mewn arddull honky tonk.
Bydd yr albwm ar werth mewn siopau amrywiol ac ar wefan y Welsh Whisperer.
Roedd Y Selar yn ddigon ffodus o ddal y Welsh Whisperer am sgwrs ar ôl ei set yng Ngŵyl Canol Dre ddydd Sadwrn…