Mae Worldcub yn paratoi i ryddhau cynnyrch newydd ar ffurf sengl ddwbl ddechrau mis Hydref.
‘Here Comes the Moonshadow / Hel y Hadau’ ydy enw’r traciau a byddan nhw’n cael eu rhyddhau gan label Recordiau Ratl.
Efallai fod Worldcub yn enw newydd i rai, ond mae hen enw’r grŵp yn debogol o fod yn fwy cyfarwydd – CaStLeS. Newidiodd y grŵp eu henw ym mis Hydref 2018, gan ddweud fod hyn oherwydd eu bod wedi newid cymaint fel band ers y dyddiau cynnar, ac eu bod nhw’n awyddus i gael enw mwy unigryw.
Dau frawd, Cynyr a Dion Hamer ydy aelodau craidd Worldcub, ynghyd â Carwyn Ginsberg (sydd hefyd yn aelod o Hippies v Ghosts a Fauna Twin) ar y gitâr a Dion Wyn Jones (Alffa) ar y gitâr fas hefyd yn aelodau bellach.
Taith i Ganada
Mae’r sengl newydd yn cyd-fynd a gig rhyngwladol cyntaf y band yn BreakOut West Festival, Canada mewn partneriaeth gyda FOCUS Wales a Chronfa Rhyngwladol PRS. Byddan nhw’n chwarae tri gig yno ar 4 a 5 Hydref.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Fforesteering’, ar ddiwedd 2016, gan dderbyn canmoliaeth o sawl cyfeiriad, a chael eu henwi’n ‘New Band of the Week’ yn The Guardian ym mis Rhagfyr 2016.
Y newyddion da pellach ydy bod ail albwm ar y ffordd gan y grŵp, a’r sengl ddwbl newydd ydy’r blas cyntaf o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar y record hir.
Mae’r albwm newydd wedi’i recordio yn eu cartref yng Ngheunant, ger Caernarfon, ac mae disgwyl iddo gael ei ryddhau ar ddechrau 2020.
Bydd fideo newydd y trac ‘Here Comes the Moonshadow’ a gafodd ei gynhyrchu gan ERFYL Productions yn cael ei ryddhau hefyd ar 4 Hydref ac i’w weld gyntaf ar wefan gerddoriaeth amlwg God is the TV.