Mae sengl newydd Elis Derby, ‘Yn y Bôn’, wedi’i ryddhau’n swyddogol heddiw, 17 Mai.
Mae Elis yn enw a llais cyfarwydd ar ôl bod yn aelod o’r grŵp roc o Fangor, Chwalfa, cyn dechrau gwneud enw i’w hun fel artist unigol llynedd. Bydd llawer ohonoch yn cofio iddo gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru ym Mae Caerdydd fis Awst.
‘Yn y Bôn’ ydy enw sengl ddiweddaraf y gŵr ifanc ac mae’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Hufen.
Dyma’r cynnyrch cyntaf iddo ryddhau ers y sengl ‘Prysur yn Gneud Dim Byd’ ym mis Ionawr eleni. Cyn hynny bu iddo ryddhau’r sengl ddwbl ‘Sut Allai Gadw Ffwrdd / Myfyrio’ ym mis Hydref llynedd.
Yn ôl y cerddor, ysgrifennwyd ‘Yn y Bôn’ mewn amgylchiadau tebyg iawn i’w sengl ddiweddaraf, sef yn bored mewn fflat ym Manceinion ac yn awchu i ffeindio criw o bobl tebyg i gyflawni rhywbeth a’u hamser.
Er hynny, mae Elis wedi dilyn cyfeiriad ychydig yn wahanol gyda’r sengl newydd, gan gyflwyno sŵn ychydig yn drymach, wedi’i ddylanwadu’n drwm gan Velvet Underground a Nirana.
Mae’r sengl newydd ar gael ar y prif lwyfannau digidol nawr.
Mae llwyth o gigs ar y gweill gan Elis hefyd:
8/05- Focus Wales, Wrecsam
22/05- Y Ganolfan Reolaeth, Prifysgol Bangor University
13/06- Ysgol Bryn Tabor, Coedpoeth
14/06- Ysgol Brynhyfryd, Wrecsam (bore)
14/06- Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon (Prynhawn)
14/06- Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug (Nos)
22/06- Tafwyl
29/06- Gŵyl Rhuthun
06/07- Gŵyl Y Felinheli
19/07- Clŵb Rygbi Dolgellau, Sesiwn Fawr Dolgellau