Yr Atgyfodi – Ail-ryddhau clasur Y Cyrff

Bydd Label Recordiau I Ka Ching yn ail-ryddhau EP chwedlonol Y Cyrff, ‘Yr Atgyfodi’, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, a hynny union ddeg mlynedd ar hugain ers ei ryddhau’n wreiddiol yn Eisteddfod Llanrwst 1989.

Mae’r newyddion yn sicr yn amserol wrth i gitarydd a phrif ganwr Y Cyrff, Mark Roberts, ddychwelyd i’r llwyfan gyda’i brosiect diweddaraf, Mr, eleni yn ogystal â derbyn Gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar ar y cyd â basydd Y Cyrff a Catatonia, Paul Jones.

Mae llyfr am hanes Y Cyrff hefyd yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch erbyn yr Eisteddfod yn Llanrwst, gydag Uwch-olygydd Y Selar, Owain Schiavone, yn cyd-ysgrifennu’r gyfrol gyda’i dad Toni.

Mor berthnasol ag erioed

Eisteddfod 1989, ac mae Y Cyrff yn crwydro’r maes yn dosbarthu copïau o’u record feinyl 12 modfedd ‘Yr Atgyfodi’.

Roedd hi’n hollol amlwg mai yn eu tref genedigol y dylid ei ryddhau ac yn y deng mlynedd ar hugain sydd wedi gwibio heibio, mae’r caneuon yr un mor berthnasol ac yn sgrechian i gael eu hail-ryddhau ar feinyl eto ar gyfer Eisteddfod 2019.

“Yn fy marn i dyma uchafbwynt recordio’r band – pum cân sy’n llwyddo i drosglwyddo emosiwn amrwd y set byw ar feinyl” meddai Mark Roberts, sydd hefyd wedi bod yn aelod o Y Ffyrc, Sherbert Antlers, Messrs a The Earth ers dyddiau’r Cyrff.

Nid casgliad syml o ganeuon

Yn sicr, nid oes angen cyflwyniad ar un o’r traciau’n enwedig, sef yr anthem ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ – cân sy’n gorlifo o hyder ac sy’n hudo’r gwrandawr i gyd-ganu’r gytgan enwog yn ddi-ffael.

Ond mae’r casgliad byr hefyd yn cynnwys pedwar trac anfarwol arall – ‘Y Boddi’, ‘Cofia Fi’n Ddiolchgar’, ‘Cerdda Efo Fi Mewn Distawrwydd’ ac ‘Weithiau/Anadl’.

“Y gwir amdani yw bod pob un o’r caneuon ar y record yn dystiolaeth o’r angerdd a’r emosiwn oedd Y Cyrff yn gallu ei gyfleu yn eu perfformiadau byw gan gyrraedd uchafbwynt gyda’r gân olaf ‘Weithiau/Anadl’” meddai Toni Schiavone oedd yn athro Daearyddiaeth i Mark a’r drymiwr gwreiddiol, Dylan Hughes ac a drefnodd nifer o gigs cynnar y grŵp.

“Nid casgliad syml o ganeuon roc sydd gyda ni fama, ond mynegiant o ddwyster emosiynol dwfn.”

Yn ôl I Ka Ching, ym mhob un o’r caneuon mae ‘na sefyllfaoedd, delweddau a geiriau grymus o gofiadwy.

Mae’n EP sy’n parhau i fod yn berthnasol ac mae ei hail-gyflwyno i’r byd yn ffordd o ddathlu cyfraniad amhrisiadwy Y Cyrff i sîn gerddorol Cymru a thu hwnt.

Mae modd rhag archebu’r record ar wefan I KA CHING NAWR.

Dyma’r anhygoel ‘Weithiau/Anadl’ o’r casgliad: