Na, tydi Lewys Wyn a’i griw ddim wedi troi eu cefn ar gerddoriaeth a throi ar lenyddiaeth!
Ond, wedi cyfnod cymharol dawel o ran cynnyrch newydd , mae Yr Eira wedi dychwelyd gyda sengl newydd sbon o’r enw ‘Straeon Byrion’ a ryddhawyd yn ddigidol ddydd Gwener.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar wefan Y Selar 24 awr cyn y dyddiad cyhoeddi swyddogol, a ddydd Gwener hefyd cyhoeddwyd fideo ar gyfer y gân gan gyfres Lŵp, S4C – mwy am hwn isod.
Ail albwm ar y gweill
Dyma gynnyrch cyntaf y grŵp a ffurfiodd yn wreiddiol ym Mangor ers haf 2018, ond mae’n ymddangos mai tamaid i aros pryd ydy’r sengl gan fod albwm cyfan ar y gweill ganddyn nhw.
Dyma fydd ail albwm Yr Eira yn dilyn ‘Toddi’ a ryddhawyd yng Ngorffennaf 2017.
Yn ôl I KA CHING, sef label Yr Eira, bydd yr albwm yn gasgliad o ganeuon pop abstract sy’n cymysgu gitârs jangli ac elfennau mwy electronig.
‘Straeon Byrion’ yw’r sengl gyntaf oddi ar yr albwm, ac mae’n dangos aeddfedrwydd a phrofiad Yr Eira wrth iddynt blethu’r drymiau electronig a synths yn ddidrafferth gyda’u sŵn pop roc adnabyddus.
Ambell sypreis
Mae’r sengl newydd yn gân sy’n ymdrin ag anfodlonrwydd ac aflonyddwch bywyd. Er mor llawn yw’n profiadau ac er ein bod yn cael cymaint o fwynhad, mae’r meddwl yn dueddol o feddwl yn farus am yr hyn sy’n dod nesaf, yn hytrach na gwerthfawrogi’r hyn sydd o’n blaen.
Mae bywyd just yn gyfres o straeon byrion sydd ddim cweit yn gwneud synnwyr.
“Mae’r sŵn ychydig yn wahanol i’r arferol hefo ychydig mwy o ymdeimlad electronig iddi ond yn cadw’r elfen anthemig” meddai Lewys Wyn, canwr a gitarydd Yr Eira, wrth drafod y sengl ac albwm newydd.
“Gan fod hi’n ail albwm da ni’n gobeithio rhyddhau ambell beth gwahanol a gelli’r disgwyl ambell sypreis o fewn yr albwm gobeithio hefyd.”
Fideo
Crëwyd y gwaith celf ar gyfer y sengl gan Cybi Williams, ac mae’n gymysgedd o luniau a dynnwyd yn Bay of Pigs, Cuba ac yn cyfuno ysbrydoliaeth o gyfnod yn teithio yn Japan.
Mae’r trac wedi’i recordio a chynhyrchu yn Stiwdio Sain gan Ifan ac Osian, Stiwdio Drwm ac mae’r gwaith cymysgu a mastro wedi’i wneud gan Ed Boogie.
Mae’r fideo a gyhoeddwyd gan Lŵp ddydd Gwener diwethaf, wedi’i gynhyrchu gan Andy Pritchard ac wedi’i ffilmio yn hen wersyll milwrol Tonfanau.