Mae Yr Ods wedi rhyddhau’r sengl gyntaf o’u halbwm newydd ddydd Gwener diwethaf.
‘Ceridwen’ ydy enw’r trac cyntaf i weld golau dydd o’r record hir newydd, Iaith y Nefoedd, sef eu cywaith cysyniadol, aml gyfrwng gyda’r awdur amlwg Llwyd Owen.
Law yn llawn â’r albwm, gan y grŵp, mae Owen wedi ysgrifennu nofel fer a gallwch ddysgu mwy am y prosiect yn ein cyfweliad gyda’r awdur yn rhifyn diweddaraf Y Selar.
Mae’r nofel yn ail-ddehongliad o’r ymadrodd cyfarwydd sy’n deitl i’r cywaith, ac yn ei osod mewn Cymru ddystopaidd sy’n pydru â chasineb.
Mwy tywyll
‘Iaith y Nefoedd’ ydy trydydd albwm Yr Ods, yn dilyn ‘Troi a Throsi’ (2011) a ‘Llithro’ (2013).
Mae caneuon y casgliad wedi’u hysbrydoli gan y nofel fer gan Llwyd Owen, ac er bod y sain yn fwy tywyll na gwaith blaenorol y band, mae’r melodïau pop bachog cyfarwydd yn dal i fod yn amlwg.
Bydd cywaith ‘Iaith y Nefoedd’ yn cael ei ryddhau ar label Lwcus T a gwasg Y Lolfa ar 22 Tachwedd.
Mae nifer cyfyngedig o becynnau arbennig ar gael i’w rhag-archebu ar 4 Hydref o wefan y prosiect. Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth o gronfa Fusion Fund, Help Musicians UK.
Mae’r gwaith celf ar gyfer y prosiect wedi’i ddylunio gan Tom Winfield, sy’n gyfarwydd i ni hefyd fel yr artist electronig Twinfield.
Mae’n debyg bod bwriad i gynnal digwyddiadau byw i gyd-fynd â’r albwm, gyda manylion i’w cyhoeddi’n fuan.
Dyma ‘Ceridwen’:
Prif Lun: Caryd Huws / Celf: Tom Winfield