Mae cerddoriaeth Gymreig sydd wedi eu dosbarthu ar lwyfannau digidol gan asiantaeth PYST wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol, sef 25 miliwn ffrwd.
Ers sefydlu yn 2018, cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Cymreig, PYST, sydd wedi arwain y ffordd o ran sicrhau bod cerddoriaeth artistiaid Cymreig yn cyrraedd y prif lwyfannau ffrydio cerddoriaeth. Mae’r llwyfannau hyn wedi cynnwys Spotify, Apple, Deezer, Amazon a mwy.
Mae modd i artistiaid a labeli ddosbarthu’r gerddoriaeth eu hunain, neu drwy ddulliau eraill wrth gwrs, ond mae PYST yn sicr wedi gwneud bywyd yn haws i artistiaid o Gymru, ac yn arbennig felly artistiaid sy’n cyhoeddi cerddoriaeth yn y Gymraeg.
75% Cymraeg
Yn ôl PYST, amcangyfrifir bod 75% o’r gerddoriaeth dan sylw yn gerddoriaeth drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac mae sawl datblygiad nodedig wedi bod ers i’r asiantaeth sefydlu.
Erbyn hyn mae dros 70 o labeli yn defnyddio PYST i ddosbarthu eu cerddoriaeth yn ddigidol, a dros 300 o artistiaid.
Er bod yr arfer o ffrydio cerddoriaeth Gymraeg wedi tyfu mewn poblogrwydd cyn hynny, mae’n deg dweud mai’r digwyddiad a ddaeth a hyn i amlygrwydd fwyaf oedd gweld y gân Gymraeg gyntaf yn croesi miliwn ffrwd, sef sengl ‘Gwenwyn’ gan Alffa (Recordiau Côsh). Mae’r trac bellach wedi’i ffrydio dros dair miliwn o weithiau.
Er mai cerddoriaeth newydd sydd wedi dwyn y prif sylw, mae PYST hefyd wedi cyd-weithio gyda nifer o labeli er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth bwysig o’r gorffennol yn ymddangos ar y llwyfannau digidol am y tro cyntaf hefyd. Mae hyn yn ddiweddar wedi cynnwys cerddoriaeth artistiaid fel Swci Boscawen, Endaf Emlyn, Lowri Evans a label Recordiau Anhrefn.
“Yr hyn a symbylodd ffurfio PYST oedd y labeli recordiau oedd yn bodoli yng Nghymru” meddai Nannon Evans, Rheolwr Marchnata PYST.
“Mae cydweithio yn agos gyda’r gymuned gynyddol honno o labeli dros ddwy flynedd wedi bod yn fraint ac ysbrydoliaeth ac yn arbennig y dyddiau yma, mae angen cefnogi gwaith y labeli yma fwy nac erioed.”
Mae modd clywed y gerddoriaeth ddiweddaraf sy’n cael ei ddosbarthu drwy PYST ar y rhestr chwarae PYST YN DY GLUST.