EP newydd Roughion ar y ffordd

Bydd y ddeuawd electronig o Aberystwyth, Roughion, yn rhyddhau eu EP newydd ddydd Gwener yma, 1 Mai 2020.

‘Acid Appearance / Pune’ ydy enw’r EP ac mae’n cael ei ryddhau ar label newydd Afanc, sef label sy’n cael ei redeg gan un o aelodau Roughion, Gwion James.

Dau drac sydd ar yr EP newydd sef ‘Acid Appearance’ a ‘Pune’, a’r ddwy yn ganeuon digon gwahanol fel yr eglura’r grŵp.

“Cân acid house yw un neith neud i chi ddawnsio, a’r llall yn gân byddwch chi’n methu cael allan o’ch pen wrth drio cysgu ar ôl y parti!”

Mae ‘Acid Appearance’ yn defnyddio sampl o ffilm sy’n sôn am sut i wisgo yn ôl y band, gyda ‘Pune’ ar y llaw arall yn defnyddio sampl o India.

Penderfynodd Roughion enwi’r ail drac yn ‘Pune’ ar ôl y ddinas honno yn India, gan ddeall mai dyna’r lle i fynd am barti yn y wlad honno.

Mae’n ymddangos bod mwy o gynnyrch i ddod gan Roughion dros y misoedd nesaf, ac yn benodol felly EP arall ‘Targed The Moon’ fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin.

Cyn hynny, byddan nhw hefyd yn rhyddhau sengl o’r enw ‘Violent Men’ sy’n fersiwn newydd o drac gan Dead Method, sy’n un arall o artistiaid Recordiau Afanc.