Mae Adwaith wedi manteisio ar eiriau hen gân draddodiadol Gymraeg ar gyfer eu sengl newydd drawiadol.
Rhyddhawyd ‘Lan y Môr’ ar label Recordiau Libertino ddydd Gwener diwethaf, 2 Chwefror, ac mae’n esiampl berffaith o’r modd mae sgiliau cyfansoddi’r triawd o Gaerfyrddin wedi datblygu ac aeddfedu.
Mae’r sengl newydd yn dangos dylanwad grwpiau fel CAN, Siouxsie and the Banshees, The Ventures a The Breeders ar y grŵp, ond ar yr un pryd gyda stamp clir o sŵn Adwaith arni.
Dyma gynnyrch cyntaf Adwaith ers iddyn nhw gipio teitl Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2019 ar ddiwedd mis Tachwedd, ac mae’r sengl wedi’i hadeiladu ar sylfaeni riffs gitâr a bass Hollie a Gwenllian yn dawnsio o gwmpas curiadau motorik Heledd ar y drymiau.
“Daeth yr ysbrydoliaeth ar ôl i mi gyfansoddi riff roc syrff” eglurodd gitarydd a phrif ganwr Adwaith, Hollie Singer.
“Defnyddion ni geiriau ‘Ar Lan y Môr’ oherwydd roedden ni’n teimlo bod geiriau’r gân yn addas i deimlad y trac. Roeddwn i’n awyddus iawn i gal cover o gân arall yn rhan o’r set, cafon ni lawer o hwyl yn addasu’r trac yma.”
Gigio yn Siberia
Daeth y newyddion wythnos diwethaf hefyd fod Adwaith yn perfformio mewn gŵyl gerddoriaeth yn Nwyrain Siberia, Rwsia ddiwedd mis Chwefror.
Mae’r cyfle wedi dod iddynt chwarae yng ngŵyl Фестиваль Современной Музыки Uu.Sound festival a gynhelir yn Ulan-Ude rhwng 26 a 29 Chwefror diolch i bartneriaeth rhwng yr ŵyl honno a gŵyl Focus Wales yn Wrecsam.
Nid dyma’r tro cyntaf i Adwaith fanteisio ar gyfle or fath – nôl ym mis Tachwedd fe wnaethon nhw deithio i Ganada i chwarae yng ngŵyl M ym Montreal diolch i’r cynllun Focus Wales.