Mae’r cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, wedi penderfynu mynd ati i ddathlu’r adfent mewn ffordd wahanol, a chodi arian at achos da yn y broses.
Dywed Dafydd ei fod bellach wedi rhyddhau 21 o ganeuon a bydd yn perfformio un ohonynt ar-lein ar hap bob dydd nes 21 Rhagfyr gan eu rhannu gyda’r hashnod #CyfresRhagfyr.
Bydd modd defnyddio ‘Buy Me a Coffee’ er mwyn cefnogi’r gyfres, a bydd Dafydd yn rhoi unrhyw arian tuag at achos da.
Bwriad arall y gyfres ydy dechrau hyrwyddo gig rhithiol mae Dafydd yn gobeithio cynnal ar ôl y Nadolig.
Er nad oes ganddo fanylion dyddiad ac amser ar gyfer y gig eto, mae wrthi’n trafod gyda chwmnïau a chanolfannau posib ar hyn o bryd.
Bydd modd gweld y fideos o berfformiadau Dafydd ar ei dudalen Facebook, neu ar ei gyfrifon Twitter ac Instagram.