Tegwen Bruce-Deans sy’n rhoi ei barn ar ddarllediad byw diweddaraf ‘Stafell Fyw’, sef perfformiad Calan a Gwilym Bowen Rhys yn Yr Egin, Caerfyrddin ar 2 Rhagfyr.
Du a gwyn sy’n ein croesawu ni wrth i Lŵp osod yr olygfa yng Nghaerfyrddin ar gyfer yr ail gig yn eu cyfres rithiol, Stafell Fyw. Mae yna rywbeth ysgytwol o weld saethiadau artistig o bob rhan o’r perfformiad byw yn cwympo yn eu lle – bron fel petai ryw synnwyr o normalrwydd yn dechrau dychwelyd, gyda dim ond islais tywyllach o’r mygydau wyneb yn cysgodi’r cyfan fel rhan o ‘normal newydd’ y celfyddydau.
Yna, yn sydyn, plymiwn i fyd o liw gyda chroeso cynnes gan Ffion Emyr yn fyw o Ganolfan yr Egin. Yn wir, mae’r ddeuoliaeth o’r monocrom a’r lliw, yr hen a’r newydd, yn crisialu’r union uchelgais cerddorol sydd gan yr artistiaid eu hunain hefyd.
Mae yna berygl i genedl fregus fel y Cymry ddiddymu llawer o genres cerddorol gyda’r ofn o ymddangos y tu ôl i’r cyfnod, neu beidio apelio at chwaeth boblogaidd yr ifanc. Ond mae Gwilym Bowen Rhys a Calan ill dau yn rhan o fudiad cyffrous yng ngherddoriaeth Cymru, lle mae cerddorion gwerin ifanc yn dechrau rhoi eu stamp eu hunain ar barhad traddodiad. Nid hen symlrwydd gwerinol mohoni bellach, ond llond lobsgóws o ddylanwadau, degawdau a diwylliannau o’r byd cyfoes.
Ymryson gwerinol
Dyna’n wir yr oedd set agoriadol Gwilym Bowen Rhys yn cwmpasu, gyda chymysgedd o hen draddodiadau ac alawon gwreiddiol newydd.
“Drigolion Sir Gaerfyrddin!” cyfarcha’r gynulleidfa rithiol gyda baled i lofruddiaeth Hannah Davies, gan sicrhau perthnasedd ei eiriau i leoliad y gig arbennig hon. Dawn dweud stori sydd gan Gwilym, ac yn sicr ym mhob un o’i ganeuon mae’n llwyddo i’n tywys yn ddiymdrech i fyd arall o ymryson gwerinol, mor hawdd â chwiban segur agoriadol ‘Wedi i’r Tafarnau Gau’. Ei deyrnged greadigol i gerdd Iwan Llwyd oedd yn sicr un o uchafbwyntiau ei set, er iddi fod yn fwy o ymlwybrad o gân yn hytrach na gwibiad ei ganeuon poblogaidd arferol. Mae Gwilym yn chwarae’n alawol gyda geiriau’r Prifardd mewn naws galargan, sy’n boenus o berthnasol i wacter ein bariau heddiw.
Er iddi fod yn début deuawdol i Gwilym ar y gitâr a Patrick Rimes ar y ffidl, roedd y ddeinameg egnïol rhwng y ddau offerynnwr yn wefreiddiol. Dim ond dau ohonyn nhw a gamodd ar y llwyfan, ond roedden nhw’n llwyddo i lenwi’r gwacter gyda thrwch amlbwrpas eu chwarae. Wrth fanteisio ar elfen chwareus y gwrthdaro rhwng cystadlu am yr alaw a chyd-blethu’n gydseiniol, mae’r ddau offerynnwr yn llwyddo i ddal yn hiraethus ysbryd gwerinol a chymunedol y dafarn – a hyd yn oed dal hanfod natur perfformio’n byw wrth i eiriau’r gân ‘Ben Rhys’ lithro o feddwl Gwilym yn ystod y perfformiad!
Gwefr perfformio’n byw
Patrick a gamodd i ganol y llwyfan wedyn wrth i Calan gymryd yr awenau gan Gwilym. Roedd hi’n braf gweld natur byw y gig pefriol hyd yn oed yn fwy yn ystod eu perfformiad hwyt, wrth i Angharad Jenkins gyfnewid ei pherthynas uniongyrchol arferol gyda’r gynulleidfa am un rhithiol trwy ffurf sylwadau ar y ffrwd byw.
Wrth fanteisio ar dechnoleg ein hoes sydyn, taniodd y wefr o berfformio’n fyw angerdd cryfach yn chwarae’r pedwarawd. Trueni nad oedd torf o flaen y merched i roi ymateb ac adborth uniongyrchol i’w hadrannau angerddol o air llafar yn ystod yr hen ffefryn, ‘Kân’.
Detholiad o alawon bywiog oedd set Calan, yn wahanol i’r trawstoriad emosiynol gan Gwilym. Manteisiodd y grŵp ar y cyfle, gan ddod â rhai o’u traciau oddi ar Kistvaen, eu halbwm diweddaraf a ddaeth allan yn ystod y cyfnod clo, i olau dydd am y tro cyntaf yn fyw. Roedd eu hysfa i gael chwarae’r traciau hyn i’r byd yn amlwg yn y ffordd grefftus y cafodd y set ei saernïo – gyda newidiadau tempo lu yn ein tywys yn ddiymdrech i’r gân nesaf, llwyddodd y band i gadw’r gwrandawyr ar ein traed gan gynnig rhyw drywydd golau trwy’r gwead trwchus o ddylanwadau eclectig.
Erbyn y gân olaf, daeth ymroddiad yr offerynwyr i uchafbwynt wrth iddynt yn amlwg geisio ymatal rhag torri allan i ddawns eu hunain – hynny yw, tan i Bethan Rhiannon daflu’i hacordion i’r naill ochr ac ychwanegu elfen taro amgen i’r gân gyda’i chlocsio!
Rhagolygon
Ni all unrhyw beth fyth lenwi’r gwacter wrth i ni aros i gigs byw ddychwelyd unwaith eto. Ond wrth i wyth mis hir basio, a phob cynnig ar gynnal gwyliau a gigs rhithiol yn llwyddo i ddod â rhywbeth newydd i’r diwydiant, gellir dadlau mai dyma gan Lŵp ydy’r ymgais agosaf at ddiwallu’r angen am gynnyrch byw.
Llwyddwyd i ddal hanfod perfformio’n byw ar lefel artist ac ar lefel gwrandäwr, gan hyd yn oed gynnig modd i gefnogi’r cerddorion yn ariannol wedi’r perfformiad. Os mai dyma yw’r rhagolwg o gigs y dyfodol agos, gallwn fod yn hyderus bydd y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg yn gallu goroesi.
Amdani, Adwaith a Pys Melyn!
Bydd darllediad nesaf ‘Stafell Fyw’, gydag Adwaith a Pys Melyn yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach Caerdydd, yn digwydd ar nos Fercher 16 Rhagfyr. Gallwch gofrestru nawr ar wefan Stafell Fyw, yn ogystal â phrynu copi o’r gig Calan a Gwilym Bowen Rhys wythnos diwethaf.