Dwi ddim yn un am lyfi tîn, nid llyfwr tinau ymodwyf, ond iasu goc ma 3 Hŵr Doeth a’i posse o gyfranwyr di bendraw di creu corff o waith llwyr ysblennydd.
Casgliad llewyrchus o draciau sy’n haeddu pob clod ac yn gneud i mi eisiau gallu rapio a dod o’r gogledd. A dim ‘ware bach yw’r dasg yna. Dwi am geisio peidio gwneud ryw gymhariaeth gachlyd fel ma rhan fwyaf o adolygwyr Cymru’n gwneud wrth drafod y deunaw trac ‘ma. Ma hwn yna atgoffa fi o….. be ma hwnna yn deud i’r darllenwr, bo chi gallu cymharu synau? Da ti “lid”, ma gen ti glustiau. A dyna be mae’r albwm yma’n achosi i chi neud, mabwysiadu agwedd o chi’n meddwl bod awdurdod di hen fwrw allan ohonoch.
Mae’r albwm yma’n gneud i chdi ddeud “ffwcia chdi Mam a Dad” dwi off i gael spliff da’r ffrind na da chi ddim yn licio, dwi off i hemo peints a rhedeg i ffwr o cops. Pam? Achos bo 3 Hŵr Doeth yn deud bo fe’n cool a ma nhw’n gwbo lot mwy am hwyl nac eich byd olwg crach chi. Conts.
Ydw i’n hawdd fy nylawnadu? Nagydwyf. Ond mae’r 3 Hŵr yn sibrwd hud a lledrith ar y traciau ma, felly allai ddim helpu o.
Os oeddech yn disgwyl clywed track by track disection. Ewch i gachu. Dwi ddim am gydymffurfio, nid Anthony Fantano ydw i. Ond dyma’r traciau sy’n disgleirio fwya ar yr albwm.
‘Anatomy’. Cefndrac piano sy’n dod a deigryn i’m llygad a gymnastics geiriol sy’n gwneud i mi feddwl am bob tor calon, anghyfiawnder a Mark Drakeford.
‘Ol Yella’. Mae’r Hŵrs gallu harmoneiddio, llifo fatha afon a newid cyflymder mor hawdd a gyrrwr F1. Erbyn y trac yma (rhif 8) da chi’n dod i’r casgliad bo chi’ gwrando ar un o gampweithiau mwyaf gwreiddiol y degawd diwetha.
‘Ma Nain Fi’n Wech Na Nain Chdi’. Dyw Nain fi ddim yn Nain i un o’r Hŵrs felly sori Nain – yer not good enough.
‘Ffwcia Cops’. Cywir.
‘Biji Bo’. Come on. Biji Bo. Bijio fflipin Bo. Enwch artist arall yn y ganrif diwethaf sydd di torri a dymchwel yr un faint o rwystrau a’r Hŵrs. Ma nhw di cyrraedd y gororau a dangos i ni Gymry sut i neud pethau yn hollol wahanol i’r gyfundrefn. Special mention hefyd i’r Hwntw Brwnt DJ Dilys am ddangos ei ddoniau yn y cylch paffio geiriol. Safonol, diddorol, direudus.
Gwnewch ffafr i’ch hun a gwrandewch ar yr albwm yma. Fe fyddwch yn berson llawer gwell ar ôl hyn. Achw.
Garmon ab Ion