Agor ceisiadau cronfa Gorwelion

Mae Cronfa Lansio cynllun Gorwelion bellach ar agor i artistiaid yng Nghymru.

Bwriad y gronfa ydy helpu artistiaid a bandiau yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfa gyda hyd at £2000 o gyllid.

Roedd Gwilym Bowen Rhys, Chroma, Eadyth, Mellt a Los Blancos ymysg yr artistiaid a gafodd gefnogaeth y gronfa llynedd.

Mae modd cael mwy o fanylion a gwneud cais ar wefan Gorwelion.

Ewch amdani bobl!