Bydd y bleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar eleni yn agor ar 1 Ionawr, gyda chyfle i fwrw pleidlais am bythefnos.

Fel popeth arall eleni, bydd trefniadau Gwobrau’r Selar yn wahanol iawn i’r arfer. Yn hytrach na gig mawr yn Aberystwyth i ddathlu’r enillwyr fel a fu yn y gorffennol, bydd enillwyr y Gwobrau’n cael eu cyhoeddi dros wythnos o weithgarwch ar BBC Radio Cymru rhwng 8 a 12 Chwefror.
Er bod trefniadau cyhoeddi’r gwobrau’n wahanol eleni, mae’r broses o ddewis yr enillwyr yn debyg iawn i’r arfer, ac mor ddemocrataidd â phosib.
Mae’r cyhoedd eisoes wedi cael cyfle i enwebu ar gyfer yr amryw gategorïau, gyda phanel o arbenigwyr cerddoriaeth gyfoes yn mynd ati i lunio rhestrau hir ar sail yr enwebiadau hynny.
Nawr, bydd y dewis yn ôl yn nwylo’r cyhoedd unwaith eto gyda’r bleidlais i ddewis rhestrau byr ac enillwyr.

“Wrth gwrs, mae 2020 wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i’r arfer, ac rydym wedi addasu tipyn ar drefniadau’r Gwobrau eleni i adlewyrchu hynny” meddai Owain Schiavone o’r Selar.
“Mae rhai o’r categorïau wedi newid – er enghraifft, ni fyddai wedi bod yn briodol i gynnwys y categori ‘Digwyddiad Byw Gorau’ eleni.”
“Rydan ni hefyd wedi ychwanegu categori newydd i adlewyrchu’r flwyddyn eithriadol a fu – ‘Gwobr 2020’. Panel Gwobrau’r Selar fydd yn dewis yr enillydd ar gyfer y categori hwn, a’r nod ydy cydnabod gwaith rhywun sydd wedi ymateb yn bositif i ddigwyddiadau 2020.
“Gyda’r amgylchiadau fel y maen nhw ar hyn o bryd, dwi’n falch iawn o’r cyfle i gyd-weithio gyda BBC Radio Cymru er mwyn cynnal wythnos i ddathlu’r Gwobrau y tro hwn gan lenwi rhywfaint ar fwlch y digwyddiad byw oedd yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol ers 8 blynedd.”
Bydd pleidlais Gwobrau’r Selar yn agor ar ddydd Gwener 1 Ionawr ac yn cau bythefnos yn ddiweddarach ar ddydd Gwener 15 Ionawr.
Pleidleisiwch nawr: