Mae Alun Gaffey wedi datgelu bydd ei albwm newydd yn cael ei ryddhau ym mis Ebrill eleni.
Rhyddhawyd ei sengl ddiweddaraf, ‘Bore Da’, ddoe (6 Mawrth) a dyma’r sengl ddiweddaraf o gyfres o dair mae wedi rhyddhau o’r albwm newydd – rhyddhawyd ‘Yr 11eg Diwrnod’ ym mis Ionawr, ac yna ‘Rhosod Pinc’ ar 7 Chwefror.
Wrth ryddhau’r sengl ddoe, fe ddywedodd Gaff wrth Y Selar ei fod wedi hen orffen recordio’r albwm newydd, ac yn barod i’w ryddhau yn ystod mis Ebrill.
Recordiau Côsh sy’n gyfrifol am ryddhau’r senglau diweddar, ac yr albwm sydd allan yn fuan.