Bydd ail albwm o ganeuon gorau y ddeuawd cerddoriol doniol, Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer allan yn ddigidol ddiwedd yr wythnos .
‘Y Goreuon (eto)’ ydy enw’r casgliad o 12 cân fydd fydd allan ar 15 Mai, ond mae cyfle i rag-archebu cyn hynny.
Mae’r ddau’n gyfarwydd fel cerddorion comedi unigol, ond ers rhai blynyddoedd bellach wedi bod yn cyfansoddi a chyhoeddi caneuon doniol ar y cyd ar gyfer cyfres Hansh, S4C dan yr enw HyWelsh.
Rhyddhawyd albwm cyntaf yn cynnwys detholiad o’r rhain yn Rhagfyr 2018.