Ail albwm She’s Got Spies ar y ffordd

Bydd albwm newydd She’s Got Spies yn cael ei ryddhau ar 6 Tachwedd, gyda sengl i gynnig blas allan cyn hynny, ar 23 Hydref.

Enw’r sengl newydd ydy ‘Super Sniffer Dogs’, ac mae’n rhagflas o’r hyn sydd i ddod ar y record hir o’r enw ‘Isle of Dogs’, fydd allan ar label Zelebritee.

Sefydlwyd She’s Got Spies gan y gantores Laura Nunez yn 2005 ar y cyd â Matthew Evans, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r Keys.

Daw Laura’n wreiddiol o Lundain, ond symudodd i Gaerdydd a chael ei hysbrydoli i fynd ati i ddysgu Cymraeg ar ôl clywed cerddoriaeth grwpiau fel Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Melys ymysg eraill.

Mae Laura bellach yn rhannu ei hamser rhwng dinasoedd Caerdydd a Llundain ac yn gallu canu yn y Gymraeg, Saesneg a Rwsieg.

Degawd o gyfansoddi

‘Isle of Dogs’ ydy ail albwm She’s Got Spies gan ddilyn Wedi a ryddhawyd yn 2018. Mae’r record hir newydd wedi’i enwi ar ôl, ac yn cyfeirio at, yr ardal honno o Lundain, sef bro mebyd Laura Nunez, ynghyd â sefyllfa gythryblus ynys Prydain.

Roedd albwm cyntaf She’s Got Spies yn gasgliad o draciau wedi’u hysgrifennu dros gyfnod hir o amser, ac mae’r un peth yn wir am ‘Isle of Dogs’ sy’n cynnwys  caneuon wedi eu hysgrifennu dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae’r albwm yn un amlieithog hoffus am deithio, gyda’r rhan fwyaf o’r caneuon wedi’u hysgrifennu wrth deithio neu pan fu Laura’n byw yn un o’r nifer o wledydd mae wedi bod iddynt gan gynnwys Rwsia, Fietnam, Yr Eidal a Tierra del Fuego yn Yr Ariannin.

Ysgrifennwyd rhannau o’r casgliad hefyd yng Nghaerdydd, Llundain a rhannau eraill o Gymru a Lloegr.

Ansicrwydd yr oes

Mae gan Laura ddawn o ysgrifennu alawon bachog a geiriau swreal ond personol, ac mae’r albwm newydd yn llawn o hynny ynghyd â synau psych tywyll sy’n creu naws iasol sy’n adlewyrchu ansicrwydd yr oes bresennol.

Rhyddhawyd sengl gyntaf yr albwm newydd, ‘Wedi Blino’ yn 2019 ynghyd â fideo gan Laura yn Antartica pan enillodd daith yno yn 2018.

Mae’r sengl newydd, ‘Super Sniffer Dogs’ wedi’i hysbrydoli gan ymweliad i Poplar ar yr Isle of Dogs yn Llundain – ardal ble mae gwrthgyferbyniad anghydraddoldeb ariannol yn amlwg, yn enwedig wrth edrych ar fanciau cyfoethog Canary Wharf ochr yn ochr a’r ystadau cyngor enfawr a thlawd.

Mae sŵn y gân yn drawiadol diolch i’w steil piano crand, curiad drwm cyson, gitârs egnïol a phrif lais chwareus sy’n nodweddiadol o’r grŵp.

Cân am ŵyl apocalyptaidd ddychmygol gyda llawer o gyfyngiadau mewn ardal dlawd gyda waliau uchel ydy ‘Super Sniffer Dogs’, ond er gwaetha’r themâu dwys, mae’r neges yn gwrthgyferbynnu gyda’r alaw fachog a hwyliog.