Mae’r grŵp chwedlonol o Aberteifi, Ail Symudiad, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 23 Hydref.
‘Mor Ddisglair’ ydy enw’r trac newydd, ac mae’n cael ei ryddhau ar label Fflach Cyf.
Stori wir, a rhan bwysig o hanes Dyffryn Teifi, sydd wedi ysbrydoli’r sengl newydd a honno’n ymwneud â gwersyll carcharorion rhyfel yn yr ardal.
Yn y 1940au, yn ystod blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd, daeth llawer o filwyr o’r Eidal a’r Almaen draw i wersyll carcharorion rhyfel Henllan ger Llandysul.
Ar ôl i’r rhyfel orffen, arhosodd nifer helaeth o’r dynion yma gan ymdoddi i’r gymdeithas leol – rhai’n dysgu Cymraeg, a dod yn ffrindiau gydag aelodau Ail Symudiad. Gydag amser, daeth y merched a ‘adawyd ar ôl’ yn Yr Eidal a’r Almaen i Gymru a phriodi eu cyn-gariadon.
Roedd 1200 o ddynion yn garcharorion yng ngwersyll Henllan, a gan eu bod yn bobl grefyddol penderfynodd rhai ohonynt droi un o’r cabanau yn gapel Catholig a phaentio frescos ar y waliau a’r to. Mario Ferlito oedd yr artist, a daeth y lliw i gyd o ffrwythau, sudd moron a phethau naturiol o’n hamgylch yn y wlad.
Mae’r capel yn lle gwirioneddol anhygoel ac wedi ysbrydoli’r gân newydd gan Ail Symudiad.
Yn ogystal ag aelodau arferol Ail Symudiad, mae Angharad Jenkins (Calan, DnA) yn ymuno ar y ffidil ar gyfer y gân newydd, yn ogystal â George Whitfield ar yr accordion.
Mae’r gwaith celf wedi’i greu gan Jayne Young, Shwldimwl. Mae’r band yn cyflwyno’r gân er cof am eu ffrind Andrew ‘Tommo’ Thomas, Maesglas, Aberteifi.
Dyma fideo sesiwn o’r gân ar gyfer rhaglen Heno, S4C: