Mae Al Lewis wedi rhyddhau sengl Saesneg newydd ddydd Gwener diwethaf, 16 Hydref.
‘Wanting More’ ydy enw’r trac newydd gan y canwr-gyfansoddwr poblogaidd o Abergele, a dyma’r sengl gyntaf i ymddangos oddi-ar albwm newydd Al fydd yn cael ei ryddhau yn ystod 2021 gyda lwc.
Mae geiriau’r sengl yn canolbwyntio ar ein brwydr i deimlo’n hapus ac yn gyflawn.
“Mae’r ymdrech cyson i chwilio am werth yn rhywbeth dwi’n credu mae llawer o gerddorion yn gweld yn anodd” meddai Al Lewis.
“…ond mae teimlo o hyd fel bod rhywbeth ar goll yn rhywbeth dwi’n siŵr all pawb o bob mathau o fywyd uniaethu gyda.
Yn y gân hon rwy’n trio wynebu’r cais diddiwedd tuag at deimlad o fod wedi ‘cyrraedd’ – beth bynnag mae hynny’n meddwl dyddiau yma.”
Mae’r sengl allan yn ddigidol ar label Al ei hun.