Albwm Colorama ar y ffordd

Mae Colorama wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm newydd ar 31 Gorffennaf 2020.

‘Chaos Wonderland’ ydy enw record hir ddiweddaraf y grŵp a bydd yn cael ei rhyddhau ar label Banana & Louie Records. Ond, fel tamaid i aros pryd mae’r grŵp wedi datgelu trac cyntaf o’r albwm sef ‘And’ i’r byd.

Colorama yd’r grŵp sy’n cael eu harwain gan y cerddor amryddawn Carwyn Ellis, a dyma fydd eu seithfed albwm stiwdio llawn, yn ogystal â dau cryno albwm.

Recordiwyd yr albwm yn stiwdio ‘Shop’ Shawn Lee yn gynnar yn 2018 mewn egwyl rhwng teithiau i Carwyn ar y pryd, sydd wedi bod yn teithio’n rheolaidd fel aelod o fand enwog y Pretenders dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Shawn Lee yn gerddor hynod gynhyrchiol sydd wedi rhyddhau tua 30 o albyms ei hun dros y blynyddoedd yn ogystal â chyd-weithio gydag artistiaid amrywiol sy’n cynnwys Clutchy Hopkins, Tony Joe White, Darondo, Money Mark, Tommy Guerrero, Psapp, Little Barrie a Saint Etienne. Cyd-weithiodd gyda Carwyn am y tro cyntaf yn 2017 wrth recordio’r sengl ‘Dive’.

Daeth y ddau i gysylltiad gyntaf yn ystod sesiynau recordio Saint Etienne, gan addo dod ynghyd i gyd-weithio cyn gynted â phosib. Daeth y cyfle hwnnw ddechrau 2018 i weithio ar albwm diweddaraf Colorama.

Yn y cyfamser wrth gwrs teithiodd Carwyn i Frasil a chael ei ysbrydoli yno i fynd ati i recordio’r albwm ‘Carwyn Ellis & Rio 18’ sydd wedi bod yn boblogaidd a llwyddiannus iawn. Mae’r ddau gerddor wedi bod yn hynod o brysur yn teithio ers hynny hefyd – Carwyn gyda’r Pretenders ac Edwyn Collins, a Shawn gyda’i waith unigol a gyda’r band Young Gun Silver Fox.

Mae Carwyn hefyd wedi bod yn brysur yn ystod y cloi mawr gan ryddhau cyfres o senglau ac EP er budd elusen Tarian Cymru. Mae’n debyg ei fod hefyd yn gweithio ar ddilyniant i Rio 18 fydd allan yn 2021.

O’r diwedd yn 2020 daeth y cyfle i droi nôl at yr albwm…cyn i’r cloi mawr ddod i darfu ar y cynlluniau eto!  Ond, nawr o’r diwedd mae’r cyfle wedi dod i orffen y casgliad a’i ryddhau.

Mae’r ddau gerddor yn offerynwyr amryddawn, felly llwyddwyd i recordio’n gyflym heb fawr dim cymorth ychwanegol ar wahan i’r gantores o Wlad yr Ia, Lay Low, sydd wedi cyfrannu ei llais at y trac ‘Me & She’.

“Fi wedi teithio lot dros y blynyddoedd diwethaf ‘ma ac wedi gweld lot o lefydd mewn ffrwd lwyr, ar frys ac ie – mewn chaos” meddai Carwyn wrth egluro enw’r albwm.

“Unlle yn fwy felly nag adref. Ond wrth wneud hynny, rwy’ wedi gweld cymaint sy’n fy ngwneud i’n llon, yn arbennig felly’r golygfeydd dwi wedi gweld, ynghyd â chynhesrwydd a charedigrwydd greddfol y mwyafrif helaeth o bobl rwy’ wedi cyfarfod.”

Y trac newydd, ‘And’ ydy’r cynnyrch cyntaf i’w ryddhau gan Colorama ers yr albwm ‘Some Things Just Take Time’ yn 2017.

Mae modd lawr lwytho’r sengl ar safle Bandcamp Colorama a hefyd rhag archebu’r albwm.