Albwm Mared yn agosau

Mae’n ymddangos fod y gwaith ar albwm cyntaf Mared Williams yn agosau at gael ei gwblhau.

Wythnos diwethaf, datgelodd Stiwdio Drwm eu bod yn brysur yn cymysgu record hir y gantores o Lanefydd sydd ar hyn bryd yn ran o gast sioe Les Mis yn y West End.

Roedd Mared wedi ei chynnwys ar restr fer categori ‘Artist Unigol Gorau’ Gwobrau’r Selar dros y penwythnos ac mae’n gyn aelod o’r grŵp Trŵbz a enillodd y wobr am y Record Fer Orau yng Ngwobrau’r Selar llynedd.

Mae Mared wedi ymuno â label I KA CHING ar gyfer rhyddhau ei chynnyrch unigol, gan ryddhau sengl ‘Y Reddf’ ym mis Mehefin llynedd.

Dyma’r fideo ar gyfer y trac hwnnw: