Albwm newydd Sera

Heb amheuaeth, mae Sera wedi bod yn un o gerddorion amlycaf cyfnod y cloi mawr, ac mae hynny’n parhau wrth iddi ryddhau ei halbwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 31 Gorffennaf.

‘When I Wake Up’ ydy enw record hir ddiweddaraf y gantores sy’n dod yn wreiddiol o Gaernarfon, ac mae’n cael ei ryddhau ar label CEG Records.

Mae’r albwm ar gael ar CD yn unig ar hyn bryd, ond bydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar 14 Awst.

Mae’r record yn gasgliad o 11 trac sydd oll wedi eu hysbrydoli gan chwedloniaeth.

Mae modd archebu copi ar safle Bandcamp Sera, neu ar wefan CEG Records.

Bydd parti lansio swyddogol yn digwydd yn rhithiol ar Facebook ar 14 Awst.