Albwm Omaloma allan ym mis Ebrill

Mae Omaloma wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Ebrill eleni.

‘Walk The Dog’ ydy enw sengl ddiweddaraf y grŵp pop synth seicadelig o Ddyffryn Conwy a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 28 Chwefror.

Cyn aelod Sen Segur, George Amor, ydy’r prif egni tu ôl i’r grŵp a ffurfiodd yn 2015, gyda’r cynhyrchydd a chyn aelod Jen Jeniro, Llyr Pari brif sidekick abl.

Mae’r aelodau eraill i gyd yn gerddorion adnabyddus hefyd – Daf Owain (Jan Jeniro, Eitha Tal Ffranco) ar y bas, Alex Morrison (Lastigband) ar y synths a Gruff ab Arwel (Y Niwl, Eitha Tal Ffranco, Bitw) ar y gitâr.

Mae Omaloma wedi creu cryn argraff yng Nghymru a thu hwnt dros y bum mlynedd ddiwethaf, a bydd croeso mawr i’r newyddion y byddant yn rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘Swish’ ar 3 Ebrill.

Label Dan Amor, sef brawd mawr George, Recordiau Cae Gwyn, fydd yn rhyddhau’r albwm a Llŷr Pari sydd wedi recordio a chynhyrchu’r record yn ei stiwdio – Glan Llyn – ym mhentref Melin y Coed ger Llanrwst.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar y prif lwyfannau digidol arferol – mae modd rhag archebu nawr.