Ddegawd ar ôl rhyddhau’r record yn wreiddiol, mae albwm y grŵp Twmffat, Myfyrdodau Pen Wy, bellach ar gael yn ddigidol yn ogystal ag ar CD.
Twmffat ydy’r grŵp roc / reggae sy’n cael ei arwain gan Ceri Cunnington, sy’n fwyaf cyfarwydd fel ffryntman un o grwpiau mwyaf Cymru dros y degawdau diwethaf, Anweledig. Mae’r grŵp hefyd yn cynnwys nifer o gerddorion eraill amlwg ardal Blaenau Ffestiniog.
Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol ar label Recordiau Bos yn 2010, ond mae bellach ar gael ar y llwyfannau digidol arferol hefyd.
Dyma drac agoriadol y record, ‘Sanctaidd Law’: