Alun a’i ‘Arwydd’

Mae Alun Gaffey wedi rhyddhau’r diweddaraf o gyfres o senglau fel blas o’i albwm newydd sydd allan mis yma.

‘Arwydd’ ydy enw’r sengl newydd a ryddhawyd dydd Gwener 3 Ebrill, ac mae’n dilyn tair sengl arall sydd eisoes wedi’u rhyddhau ganddo eleni sef ‘Yr 11eg Diwrnod’ a ryddhawyd ym mis Ionawr, ‘Rhosod Pinc’ ar 7 Chwefror, a ‘Bore Da’ a ymddangosodd ddechrau mis Mawrth.

Daw’r sengl ddiweddaraf law yn llaw â manylion pellach ynglŷn â’i albwm newydd, ynghyd â dyddiad rhyddhau swyddogol.

Llyfrau Hanes

Llyfrau Hanes ydy enw ail albwm y cerddor fydd yn cael ei ryddhau ar 17 Ebrill gan Recordiau Côsh.

Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Frank Naughton rhwng 2016 a 2019, ac mae’r cynhyrchydd ei hun yn ymddangos ar ambell drac hefyd.

Dywed y label fod perthynas weithio’r cerddor a chynhyrchydd wedi datblygu dros sawl blwyddyn bellach, ac mae’r ddealltwriaeth rhwng y ddau i’w glywed yn glir ac yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng y casgliad hwn ac albwm cyntaf Alun Gaffey.

Mae Alun yn gyn-aelod o’r grwpiau Pwsi Meri Mew, Radio Luxemburg a Race Horses ond rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, sy’n rhannu enw’r cerddor, yn 2016.

Etifeddiaeth

“Roeddwn i’n dod a dylanwadau cerddorol eang i mewn i’r stiwdio, ond ar yr un pryd yn ceisio creu rhywbeth gwreiddiol” meddai Alun wrth drafod y broses recordio.

“Dwi wrth fy modd yn creu cerddoriaeth gyda drum-machines, synthesizers, ac effeithiau sain amrywiol – ac mae hynny i’w glywed ar yr albwm.”

Mae’r albwm newydd yn ymdrin â’r themau o orbryder, tristwch am gyflwr y blaned, hiraeth am oes a fu a phryder am ddyfodol dystopaidd – pynciau a fyddai efallai wedi swnio’n eithafol llai na mis yn ôl, ond sydd efallai’n fwy perthnasol nag erioed erbyn hyn.

“Dwi’n credu roeddwn i, ar lefel isymwybodol, yn meddwl lot am etifeddiaeth. Fy etifeddiaeth bersonol i ar y blaned ‘ma yn ogystal â’n hetifeddiaeth fel dynolryw. Serch hynny, mae ‘na ganeuon positif iawn ar yr albwm hefyd!”

Cafodd y gwaith celf ei greu mewn dau ran wedi i Alun gael syniad o gyfuno gwaith y ffotograffydd ‘drone’ Cai Erith Williams gyda sgiliau’r artist gweledol Nic Finch i greu cyfanwaith trawiadol o luniau o Gaerdydd o’r awyr wedi’u taflunio ar Alun ei hun.

“Dwi’n falch iawn o Llyfrau Hanes fel cyfanwaith, ac yn gobeithio y bydd yn creu argraff ar gynulleidfa Gymraeg a thu hwnt” meddai’r cerddor.

Bydd yr albwm ar gael yn ddigidol yn unig ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa Covid-19, ond bydd fersiwn CD yn cael ei ryddhau pan fydd y pryderon iechyd presennol yn caniatau hynny.