Mae Dafydd Hedd wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Llun, 8 Mehefin gyda’r nod o gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
Mae’r cerddor o Fethesda eisoes wedi rhyddhau albwm yn ystod y cloi mawr, gan gynnal gig lansio digidol o’i gartref – ei ail albwm yn dilyn Y Cyhuddiadau a ryddhawyd llynedd.
Nawr mae wedi penderfynu rhyddhau sengl newydd sbon o’r enw ‘Anghofiai Ddim’ gyda’r bwriad o godi arian at y Gwasanaeth Iechyd ac yn ôl y cerddor “er mwyn hybu gobaith i bobl yn gyffredinol”.