Bydd Ani Glass yn rhyddhau EP newydd o’r enw ‘Ynys Araul’ ddydd Gwener nesaf, 11 Medi.
Mae’r record fer newydd yn dilyn ei halbwm hynod lwyddiannus, ‘Mirores’ a ryddhawyd ym mis Mawrth – cipiodd yr albwm deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Recordiau Neb sy’n rhyddhau’r EP newydd ar y llwyfannau digidol arferol, ac mae’n cynnwys traciau wedi eu hail-gymysgu gan Seka, Venus on the Half Shell ac Orchestral Manoeuvres in the Dark.