Mae Ani Glass wedi rhyddhau ei EP newydd, Ynys Araul, ddydd Gwener diwethaf, 11 Medi ar label Recordiau Neb.
Yn ogystal â fersiwn wreiddiol y trac sy’n rhannu teitl y record fer, mae’r EP hefyd yn cynnwys tri fersiwn wedi’u hail-gymysgu o’r trac – un gan y grŵp electronica amlwg Orchestral Manoeuvres in the Dark (OMD) ac un yr un gan Seka a Venus on the Half Shell.
Mae’r record fer newydd yn dilyn ei halbwm hynod lwyddiannus, ‘Mirores’ a ryddhawyd ym mis Mawrth – cipiodd yr albwm deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Cariad a cholled
Mae’r trac ‘Ynys Araul’ yn plethu llais etheral Ani gyda melodïau lledrithiol ynghyd â synths a lŵps mecanyddol ailadroddus.
“Mae ‘Ynys Araul’ am gariad a cholled ond hefyd yn ehangu ar themâu cyffredinol yr albwm [Mirores] o symud a datblygiad” meddai Ani.
“Mae’n trafod sut mae’n atgofion ac emosiynau’n aml yn cysylltu â llefydd penodol ac yn cyflwyno effaith dirdynnol datblygiad ar eich synnwyr o hunaniaeth pan fo’r llefydd hynny’n newid neu ddiflannu.”
Roedd albwm Mirores yn daith electronig o ddinas magwraeth y gantores, Caerdydd. Mae’r synau a recordiwyd gan Ani o’r dirwedd ddinesig i’w clywed trwy gydol yr albwm – symudiad traffig a phobl, a sŵn hudol ond prin natur yn dod ynghyd i greu symffoni’r ddinas.
Ar Mirores rydyn hefyd yn gweld Ani’n mentro i waith cynhyrchu am y tro cyntaf, ar ôl cael ei hysbrydoli gan Martin Rushent a weithiodd gyda’i grŵp indie-pop, The Pippettes.
Mae ail-gymysgu traciau wedi dod yn arfer poblogaidd iawn yn ddiweddar, ac rydym wedi gweld mwy o hynny yn y Gymraeg dros y misoedd diwethaf fel â drafodwyd yn ddiweddar mewn darn gan Tegwen Bruce-Deans.
Wrth sgwrsio gyda’r Selar eglurodd Ani sut y daeth i weithio gyda’r artistiaid sydd wedi ail-gymysgu Ynys Araul.
“Fi’n nabod Andy McCluskey [o’r grŵp OMD] o fy nghyfnod yn Lerpwl pan o’n i mewn grŵp R&B” eglura Ani.
“Mae Seka a VOTHS yn ffrindiau i Winf [Tom Winfield – rheolwr label Neb] trwy ei gysylltiadau coleg a’i waith cynllunio gyda’r noson Teak ym Mryste.”
Mae modd archebu’r EP newydd ar wefan Recordiau Neb nawr.