Mae Carwyn Ellis & Rio 18 wedi rhyddhau sengl newydd sbon ers 23 Tachwedd.
‘Ar ôl y Glaw’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i gyd-ysgrifennu gyda Mared Rhys o’r grŵp Plu, ac sydd wedi cyd-weithio gyda Carwyn ar yr albwm Bendith yn y gorffennol.
Dyma’r sengl gyntaf i ymddangos o albwm nesaf Carwyn Elis & Rio 18, albwm fydd yn dwyn yr enw ‘Mas’.
Yn nhraddodiad Rio 18, mae’r sengl newydd yn hafaidd a heulog fel y byddech chi’n disgwyl, ac mae’n cynnwys lleisiau cefndir Marged Rhys a’i chwaer Elan, yn ogystal â Carwyn wrth gwrs.
Recordiwyd y trac gyda’r cynhyrchydd Shawn Lee ym mis Medi eleni, sef y gŵr a weithiodd yn agos gyda Carwyn ar albwm diweddaraf Colorama a ryddhawyd yn gynharach eleni. Fe’i recordiwyd yn stiwdio The Shop yn Llundain a stiwdio Sain yn Llandwrog.
Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl ac roedd cyfle cyntaf i weld hwn ar raglen Heno, S4C nos Fawrth diwethaf.