Band Pres Llareggub yn ail-gynnau fflam gyda Gwyllt

Mae Band Pres Llareggub wedi ail-gydio mewn hen bartneriaeth a chyd-weithio â’r cerddor Gwyllt ar ddau drac sy’n cael eu rhyddhau fel sengl ddwbl fory, 28 Awst.

‘Ma Dy Nain yn Licio Hip Hop’ a ‘Miwsig i’r Enid’ ydy enwau’r ddau drac newydd ac maent allan ar label Recordiau MoPaChi.

Nid partneriaeth newydd ydy hon rhwng Band Pres Llareggub a Gwyllt, ond yn hytrach ailgynnau hen fflam.

Gwyllt ydy prosiect cerddorol Amlyn Parry, ac fe gyd-weithiodd gyntaf gyda Band Pres Llareggub ar y trac ‘Foxtrot Oscar’ a ymddangosodd ar EP cyntaf y grŵp, ‘Bradwr’, yn 2015.

Cyfranodd Gwyllt hefyd at un o draciau’r albwm ‘Mwng’ a ryddhawyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, sef ‘Nythod Cacwn’.

Ers hynny mae Band Pres Llareggub, sy’n cael eu harwain gan y cerddor amryddawn Owain Roberts, wedi mynd o nerth i nerth gan deithio ar hyd y wlad, a’r byd.

“Dwi wedi bod wrthi yn ceisio cael Amlyn i ysgrifennu mwy o diwns ers blynyddoedd bellach a falch iawn ein bod wedi gallu dod at ein gilydd yng Nghaerdydd y llynedd yn stiwdio Frank Naughton i weithio ar y caneuon yma” meddai Owain Roberts.

“Mae o bob tro’n bleser i gael gweithio gyda Amlyn. Dani’m yn cymeryd ein hunain gormod o ddifri, wedi’r cyfan dani’n ceisio cynhyrchu cerddoriaeth hip hop gyda band pres.”

Mae Gwyllt hefyd yn amlwg yn falch iawn o’r cyfle i gyd-weithio gyda Band Pres Llareggub hefyd.

“Mae eto yn fraint cael cydweithio Band Pres Llareggub ar y tracs newydd ‘ma” meddai Amlyn.

“Roedd hi yn braf gallu talu teurnged i bwysigrwdd cerddoriaeth i mi wrth sgwennu geiriau ‘Miwsig I’r Enaid. Mae ‘Ma Dy Nain Yn Licio Hip Hop’ yn dod o’r genhedaeth newydd o neiniau a teidiau sydd wedi ei magu a’i dwyn fyny ar hip hop.”